Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae ffermio wedi wynebu gaeaf heriol ac mae tywydd gwlyb drwy’r amser wedi peri llawer o heriau i’r diwydiant, a disgwylir i rai ohonynt gael effaith ar y gaeaf a’r hydref sydd i ddod – gan gynnwys y cynhaeaf.

Er mwyn helpu’r diwydiant i baratoi ar gyfer yr heriau sydd o’i flaen, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynnal gweminar ar y cyd â’r Rhwydwaith Cymunedol Ffermio (FCN)  a Chyfrifyddion LHP i drafod pa gamau y gall ffermwyr eu cymryd nawr i baratoi ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.

Cynhelir y gweminar nos Fercher 26 Mehefin am 7pm ac mae’n agored i bawb.

Yn ymuno â’r weminar mae Rheolwr Rhwydwaith Cymunedol Ffermio Cymru, Linda Jones, a fydd yn rhoi sylw i sut y gall ffermwyr gadw eu hunain yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn mynd i’r afael â’r cyfnod heriol sydd o’u blaenau; bydd William Howell, uwch gyfrifydd amaethyddol o fewn  tîm amaethyddiaeth Cyfrifyddion LHP, yn trafod atebion ymarferol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd ariannol heriol ar y fferm a bydd Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC, James Ruggeri, yn trafod y ffordd orau o baratoi ar gyfer gaeafau gwlyb o ran tir a da byw.

Wrth siarad cyn y digwyddiad rhithwir, dywedodd James Ruggeri:

“Mae’r gaeaf a’r gwanwyn diwethaf wedi cyflwyno rhai heriau anodd i’r diwydiant. Doedd llawer o ffermwyr ddim yn gallu rhoi gwrtaith ar eu caeau yn y modd arferol oherwydd gwlybaniaeth, a bydd hyn yn ei dro yn cael effaith ar silwair a thyfiant y borfa. Mae eraill wedi wynebu problemau fel Schmallenberg yn eu diadelloedd, ac ar y cyfan mae'r gaeaf wedi achosi problemau meddyliol.

“Er na allwn reoli’r tywydd, na phroblemau afiechyd fel Schmallenberg yn ystod y  tymor wyna, mae yna ffyrdd y gallwn baratoi ar gyfer y tymor nesaf.

“Rydym am weld diwydiant ffermio cryf a bydd HCC, ochr yn ochr ag FCN a Chyfrifyddion LHP yn trafod pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod wedi paratoi’n dda ar gyfer tymor y gaeaf sydd i ddod.  Gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar y noson.”

Ychwanegodd Linda Jones: “Byddwn yn clywed yn aml am wneud ffermio yn gadarn. Ond beth mae hynny'n ei olygu i iechyd a lles pobl yn y diwydiant amaethyddol? Bydd y digwyddiad hwn yn darparu gwybodaeth i helpu ffermwyr i adnabod eu cryfderau a bydd hefyd yn amlygu meysydd lle gallai fod angen rhywfaint o gymorth arnyn nhw.”

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad e-bostiwch: info@hybucig.cymru erbyn dydd Llun 24 Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â thim cyfathrebu HCC ar press@hybucig.cymru

You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru