Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Gwahoddir ffermwyr defaid yng Nghymru i gymryd rhan mewn prosiect peilot newydd a fydd yn rhoi cipolwg unigryw ar berfformiad y ddiadell, gan helpu busnesau i wneud penderfyniadau bridio mwy gwybodus.

Mae’r peilot Floctest: EBVau ar Waith yn rhan o brosiect Geneteg Defaid Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflawni gan Hybu Cig Cymru (HCC). Nod y fenter yw asesu effaith defnyddio hyrddod sydd â gwerth genetig uchel a chofnodion perfformiad ochr yn ochr â hyrddod stoc cyfredol, mewn diadelloedd defaid mynydd a magu.

Trwy ddefnyddio technoleg DNA, bydd y prosiect yn cymharu epil hyrddod â chofnodion perfformiad ag epil hyrddod presennol ffermwyr mewn "prawf dall". Bydd hyd at 400 o famogiaid ym mhob diadell sy'n cymryd rhan, ynghyd â'r hyrddod stoc a gadwyd a'r holl ŵyn a anwyd, yn cael profion DNA. Wrth wneud hyn, nid oes angen grwpiau sy’n paru gyda’r un hwrdd, a gall ffermwyr barhau i reoli diadelloedd yn ôl eu harfer.

Bydd y prosiect peilot yn mesur amrywiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol, gan gynnwys effeithlonrwydd bridio, cyfraddau sganio ac wyna, cyfraddau twf yr ŵyn a nodweddion y carcasau. Bydd pwysau byw yr ŵyn yn cael eu cofnodi yn ystod sawl cam o’r broses gynhyrchu, a bydd data carcas – fel cyfansoddiad, dosbarth braster a phwysau marw – yn cael eu defnyddio i gymharu perfformiad y ddau grŵp o hyrddod.

Bydd ffermwyr sy'n cymryd rhan yn Floctest yn derbyn cymorth i ddatblygu Cynllun Gweithredu Bridio pwrpasol er mwyn eu helpu i nodi amcanion bridio a deall yn well sut gellir defnyddio Gwerthoedd Bridio Amcangyfrifedig (EBVau) i wella’r ddiadell a bod yn fwy proffidiol.

Esboniodd Dr Eleri Thomas o Hybu Cig Cymru: "Fel rhan o'r prosiect, bydd ffermwyr yn derbyn cymorth ymarferol ar gyfer casglu a dehongli data gan HCC a'r partneriaid cyflawni, sef Innovis a Signet.   Mae cymhorthdal ​​o hyd at £1,000 yr hwrdd ar gael ar gyfer rhwng  dau a phedwar hwrdd cymwys â chofnodion perfformiad a brynwyd ar gyfer yr astudiaeth.

Mae'r prosiect peilot yn agored i ffermwyr defaid yng Nghymru ac mae’n chwilio am gymysgedd amrywiol o fridiau, systemau ffermio a rhanbarthau daearyddol. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni am ragor o fanylion a gwybodaeth."

Sut i wneud cais

Dylai ffermwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan fynegi eu diddordeb drwy anfon eu manylion at genetics@hybucig.cymru neu drwy gysylltu â HCC ar 01970 625050. Cysylltir â’r ymgeiswyr llwyddiannus i gael rhagor o wybodaeth am eu praidd a’u busnes.

Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw Dydd Llun 12 Hydref 2026

I gael rhagor o wybodaeth, gall ffermwyr gysylltu â genetics@hybucig.cymru neu cliciwch yma.

You may also like

Cwrdd â HCC yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cwrdd â HCC yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cyhoeddi tri enillydd Ysgoloriaeth HCC yn y gynhadledd flynyddol
Cyhoeddi tri enillydd Ysgoloriaeth HCC yn y gynhadledd flynyddol
Cofrestrwch nawr ar gyfer Cynhadledd HCC 2026
Cofrestrwch nawr ar gyfer Cynhadledd HCC 2026
Bwletin y Farchnad Haf 2026: newid tueddiadau defnyddwyr mewn cig coch mewn manwerthu
Bwletin y Farchnad Haf 2026: newid tueddiadau defnyddwyr mewn cig coch mewn manwerthu

Cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin wythnosol

Darllenwch y diweddaraf gan HCC, yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith a newyddion o’r diwydiant ehangach. Unwaith y mis, mae ein Bwletin Marchnad hefyd yn rhannu’r mewnwelediad diweddaraf o’r marchnadoedd, o brisiau pwysau marw da byw i’r prif dueddiadau sy’n siapio’r diwydiant cig coch.

Llwyddiant!