Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae cynhyrchwyr yn cael eu hatgoffa bod rhoi’r gwerth gorau posibl i garcas yn  rhan bwysig o wella’r elw wrth gynhyrchu gwartheg a defaid. Mae rhoi sylw i fanylion drwy gydol y cynhyrchu –  gan gynnwys iechyd yr anifeiliaid, eu trafod a’r moddion a roddir iddynt – yn help i leihau colledion y mae modd eu hosgoi. Gall hyn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cyflawni eu potensial llawn o ran gwerth a hefyd yn bodloni'r safonau ansawdd a ddisgwylir gan broseswyr a defnyddwyr.

Mae arferion chwistrellu da yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu ansawdd y cig ac yn golygu nad oes angen gwaredu cymaint o gig wrth brosesu. Gall techneg chwistrellu wael arwain at ddifrod i feinwe, cleisio neu adweithiau lle defnyddiwyd y nodwydd, a gall olygu gwaredu cig a lleihau gwerth y carcas. Mae gofal wrth ddefnyddio meddyginiaethau milfeddygol yn helpu i gadw anifeiliaid yn iach a hefyd yn diogelu ansawdd y cynnyrch.

Gellir osgoi'r rhan fwyaf o ddifrod i’r man chwistrellu trwy ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ynghylch y ddos, sut i’w rhoi a maint y nodwydd.  Dylai nodwyddau fod yn lân ac yn finiog a dylent gael eu newid yn rheolaidd, yn enwedig wrth drin grwpiau mawr o anifeiliaid. Pan fo angen pigiadau mewngyhyrol, y gwddf yw'r man chwistrellu a argymhellir o hyd, oherwydd mae’r mannau lle mae’r cig drutaf yn cael eu diogelu.

Mae defnyddio'r dechneg gywir a thrin meddyginiaethau'n briodol yn lleihau'r risg o adweithiau meinwe ac mae canlyniadau boddhaol yn fwy tebygol. Mae rhoi sylw i sut orau y dylid chwistrellu o fudd i bawb yn y gadwyn gyflenwi. Mae'n helpu i gael y gwerth gorau o’r carcas, yn cynnal safonau lles anifeiliaid ac yn sicrhau bod defnyddwyr yn dal i dderbyn cynnyrch o ansawdd uchel. Trwy ddilyn cyngor milfeddygol a chyfarwyddiadau am y cynnyrch, gall cynhyrchwyr helpu i ddiogelu eu da byw ac enw da'r diwydiant cig coch.

You may also like

Pwysigrwydd cynyddu gwerth carcas i’r eithaf
Pwysigrwydd cynyddu gwerth carcas i’r eithaf
Gwahodd ffermwyr defaid Cymru i ymuno â chyfnod newydd o raglen geneteg
Gwahodd ffermwyr defaid Cymru i ymuno â chyfnod newydd o raglen geneteg
Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol