Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf wrth gyhoeddi ei gynllun gweithredu strategol, ‘Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch: Darparu Gwerth i Gymru’.

Mae’r ddogfen, a gyhoeddwyd heddiw [10 Mawrth 2026], yn datgelu tri maes ffocws a fydd yn cefnogi cenhadaeth y corff ardoll o arwain a chefnogi diwydiant cig coch Cymru i gynyddu ei bresenoldeb yn y farchnad, ei wydnwch economaidd a’i gystadleurwydd byd-eang wrth ymdrechu i gael effaith amgylcheddol gadarnhaol.

Bydd y blaenoriaethau’n ceisio: cynyddu cyfaint a gwerth cig coch brand Cymru a werthir; datblygu ac arwain y gwaith o weithredu mentrau sy’n gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol; ac yn olaf, darparu eiriolaeth ragweithiol, gadarn a seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y diwydiant.

Dywedodd Cadeirydd HCC, Catherine Smith: "Gweledigaeth HCC yw diwydiant cig coch cystadleuol, proffidiol, effeithlon a chynaliadwy yng Nghymru sy'n cofleidio ei gyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd y Weledigaeth sydd newydd ei chyhoeddi yn gweithredu fel glasbrint i HCC gefnogi ac uno pob elfen o'n sector a'n cadwyn gyflenwi – o ffermwyr i arwerthwyr, proseswyr a'r sector bwyd ehangach – er mwyn sicrhau llwyddiant a thwf yn y dyfodol i'n diwydiant.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wella enw da a chystadleurwydd y sector, tra hefyd yn cyflawni ar gyfer talwyr yr ardoll, defnyddwyr a chymdeithas ehangach Cymru.”

Ymgynghorodd HCC â rhanddeiliaid o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi cig coch i ddatblygu'r Weledigaeth, dan arweiniad y Prif Swyddog Gweithredol José Peralta. Dywedodd: "Ar ôl misoedd o drafodaethau ac ystyriaethau, pleser yw cyhoeddi ein Gweledigaeth ar gyfer y pedair blynedd nesaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarparu’r hyn rydyn ni’n bwriadu ei gyflawni. Byddwn yn mabwysiadu dull cydweithredol, a fydd yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant sy'n cael eu gyrru gan bwrpas cyffredin. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gweithredu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau ystyrlon."

"Mae gan HCC gylch gwaith eang, ac mae'r sector yn cyflwyno sawl her i ni sydd yn aml y tu hwnt i'n rheolaeth. Fodd bynnag, mae hefyd nifer o gyfleoedd y byddwn yn parhau i'w dilyn i hyrwyddo cynhyrchion cig coch eiconig ein gwlad."

Wrth edrych tua'r dyfodol, ychwanegodd: "Y cam nesaf fydd cyhoeddi ein Cynllun Busnes, a fydd yn amlinellu sut y bydd y strategaeth hon a'r blaenoriaethau a nodwyd yn cael eu cyflawni'n fanwl. Rydyn ni’n bwriadu cyfleu'r wybodaeth honno i'r diwydiant yn ystod cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid ledled Cymru ar ôl y cyfnod wyna, ddechrau'r haf."

Mae’r ddogfen Weledigaeth lawn i’w gweld ar ein gwefan: Gweledigaeth 2030 - Hybu Cig Cymru

You may also like

Rheolaeth buchesi sugno a sut mae’n effeithio ar y busnes
Rheolaeth buchesi sugno a sut mae’n effeithio ar y busnes
HCC yng Nghynhadledd BISAS
HCC yng Nghynhadledd BISAS
Ffermydd da byw o Gymru yn ymuno â phrosiect peilot amgylcheddol arloesol
Ffermydd da byw o Gymru yn ymuno â phrosiect peilot amgylcheddol arloesol
Niferoedd gwartheg a lloi yn parhau i ostwng
Niferoedd gwartheg a lloi yn parhau i ostwng