Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae data newydd yn awgrymu bod modd rhoi hwb i gynhyrchiant ac enillion ar ffermydd cig eidion Cymru drwy leihau cyfnodau lloia  a rheoli costau’n well.

Y cyfnod lloia cyfartalog ar gyfer buchod cig eidion yng Nghymru oedd 419 diwrnod yn 2023, sef bron i bedwar diwrnod yn llai nag yn 2022 a saith diwrnod yn llai nag yn 2013, yn ôl data diweddaraf Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), sy’n ymddangos yn rhifyn mis Ebrill o Bwletin y Farchnad gan Hybu Cig Cymru (HCC).

“Mae pethau’n gwella ond, er gwaethaf y gwelliant a gafwyd yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae ymchwil BCMS yn dangos y bydd angen i’r mwyafrif o ffermydd wneud tipyn mwy os ydyn nhw am gyrraedd y targed o 365 diwrnod rhwng lloia,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC.

“Yn yr un modd, gellir gneud mwy i dorri costau. Mae ein Harolwg Busnesau Fferm diweddaraf yn awgrymu bod bwlch enfawr rhwng y traean uchaf o ffermydd a’r traean isaf ond, wrth newid, gall cynhyrchwyr ddod o hyd i welliant mawr mewn enillion.”

Dywedodd Glesni fod effeithlonrwydd atgenhedlu nid yn unig yn hanfodol i fod yn broffidiol a gwella cynhyrchiant ond gall hefyd olygu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn buches.

“Mae dangosyddion perfformiad buchesi, ynghyd ag amcangyfrifon costau cynhyrchu, yn allweddol o ran dangos cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y fuches sugno yng Nghymru. “Mae Bwletin y Farchnad mis Ebrill yn edrych fanwl ar ddata BCMS a FBS i gael gwybodaeth a all helpu ffermwyr cig eidion i fod yn fwy proffidiol ac yn fwy effeithlon,” meddai.

Mae'r rhifyn diweddaraf yn nodi'r rhwystrau posibl rhag cyflawni'r nodau hyn. Mae’n esbonio y gallai cyfraddau twf annigonol neu ffrwythlondeb heb ei reoli o fewn buchesi achosi cyfnodau lloia hirach, tra byddai cyfnodau byrrach, yn eu tro, yn gwneud buches yn fwy proffidiol drwy gynyddu nifer y lloi sy’n bosibl yn ystod oes y fuwch.

Mae’n amlwg taw’r lloi sugno yw prif gynnyrch buchesi sugno cig eidion ac felly mae rheolaeth dda o’r buchod yn gwbl allweddol i gael y ffrwythlondeb gorau posib gan y fuches er mwyn cynhyrchu lloi sugno iach bob blwyddyn. Drwy wella effeithlonrwydd atgenhedlu’r fuches sugno, byddai pob ffermwr hefyd yn helpu i reoli costau ar y fferm a phroffidioldeb cyffredinol y busnes,” meddai Glesni.

Mae Bwletin y Farchnad yn amcangyfrif y gall oedran cyfartalog y fuwch adeg lloia am y tro cyntaf effeithio ar effeithlonrwydd atgenhedlu’r fuches sugno. Yn 2023, yr oedran cyfartalog adeg y lloia cyntaf gan fuchod cig eidion yng Nghymru oedd 975 diwrnod (neu 32.1 mis). “Mae hyn yn welliant aruthrol o’i gymharu â 2022 – oddeutu 18 diwrnod o wahaniaeth – a chymaint â 34 diwrnod yn llai nag yn 2013.  Serch hynny, mae rhywfaint o le eto i wella er mwyn cyrraedd targed sydd yn nes at 24 mis (neu 730 o ddiwrnodau),” meddai Glesni.

Mae Bwletin y Farchnad yn adolygu ffigurau costau cynhyrchu blynyddol yr Arolwg Busnesau Fferm. Mae’r data diweddaraf yn datgelu bod gan draean uchaf y buchesi o ran perfformiad gost gyffredinol o 139.2c/kg a’u bod yn cynhyrchu mwy na’r 307kg. a gynhyrchwyd ar gyfartaledd gan fuchesi. Hefyd, roedd gan y traean uchaf ychydig yn llai o gostau newidiol a sefydlog, a oedd yn golygu gwahaniaeth cyffredinol o 180.0c/kg rhwng traean uchaf a thraean isaf y buchesi o ran cyfanswm y costau.

“Gan fod enillion y farchnad yn debyg ar gyfer pob un o’r tri chategori o berfformwyr, mae hyn yn awgrymu’n glir y dylid canolbwyntio ar reoli costau ar y fferm er mwyn gwneud y gorau o broffidioldeb buchesi sugno yng Nghymru,” meddai Glesni.

Mae Bwletin y Farchnad HCC i’w weld yma:  https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/bwletin-y-farchnad


You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru