Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae’r dystiolaeth gynnar eleni yn dangos bod prisiau ŵyn pwysau marw yn parhau’n gryf a hyd yn oed wedi bod yn well nag erioed ym mis Chwefror – tra bod y galw am gig oen yn ddiweddar yn gyson er gwaethaf y pwysau ar wariant oherwydd costau byw.

Caiff y newyddion cadarnhaol yma o’r farchnad gartref ei adlewyrchu yn adroddiad arbenigol diweddaraf Hybu Cig Cymru (HCC), sef Cyflenwad Cig Oen: Y Diweddaraf a’r Rhagolygon – sydd hefyd yn nodi’r pwysau allanol heriol y mae cynhyrchwyr cig oen ledled Cymru yn parhau i wynebu, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, costau mewnbwn uwch ar y fferm, newidiadau i gynlluniau cymorth amaethyddol, a chlefydau da byw.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cyflenwad presennol o gig defaid ar farchnad y DG ac mae’n awgrymu beth fydd y cyflenwad yn y dyfodol a'r ffactorau allanol sy'n dylanwadu ar y gadwyn gyflenwi. Mae Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, yn nodi bod arolwg blynyddol mis Mehefin diweddaraf Defra wedi dangos gostyngiad sylweddol ym maint y ddiadell yng Nghymru.

“Mae’r ystadegau ar gyfer Cymru yn awgrymu bod cyfanswm y defaid ac ŵyn ar ffermydd Cymru ar 1 Mehefin 2023 yn 8.7 miliwn o anifeiliaid, sef tua saith y cant yn is nag ym mis Mehefin 2022.”

Roedd yr ystadegau hefyd yn dangos bod llai o ŵyn. “Roedd nifer yr ŵyn ar ffermydd y DG ar 1 Mehefin 2023 yn 15.5 miliwn, sef chwech y cant  yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol,” meddai.

“Gan fod cyfanswm y trwybwn presennol o ŵyn hyd at Ragfyr 2023 yn fwy na’r hyn a ddisgwylid o ystyried faint o ŵyn gafodd eu geni, gallai hynny olygu y bydd y farchnad yn debygol o weld llai o gyflenwad yn ystod misoedd cyntaf 2024,” meddai Glesni.

Roedd nifer yr ŵyn yn llai eleni oherwydd bod cyfnodau sych wedi cael effaith ar y cyfraddau sganio. Yn 2024-2025, disgwyliwn i’r cyfraddau sganio fod yn uwch ond rhagwelir y bydd nifer yr ŵyn yn llai oherwydd bod maint y ddiadell yn llai.”

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu bod y galw am gig oen yn ystod 2023 yn gyffredinol wedi bod yn dda er gwaethaf y pwysau parhaus yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan Kantar, ymchwilwyr ar ran y defnyddwyr, yn awgrymu bod bron i 45 y cant o gartrefi Prydain wedi prynu cig oen ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn, sy’n golygu cynnydd o dri y cant o ran cyfaint. Roedd y galw hefyd yn gryf ar y farchnad gartref yn ystod y Nadolig, am fod cig oen wedi gwerthu’n dda yn y siopau ym Mhrydain. Byddai'r cynnydd mewn masnach, a'r galw cryf gan ddefnyddwyr, wedi bod o gymorth i'r sector yn ystod y flwyddyn.

“Eleni, mae’r ŵyl Islamaidd – Ramadan – a’r Pasg yn digwydd yn ystod mis Mawrth. O edrych ar faint o ŵyn sydd ar y ffermydd o hyd, mae’n debygol y bydd y cyflenwad cyn y dyddiadau allweddol hyn yn dynn,” meddai Glesni.

Gan edrych ar brisiau pwysau marw, mae’r adroddiad yn cadarnhau bod y pris pwysau marw cyfartalog ar gyfer ŵyn wedi para’n gryf yn ystod 2023, gan gyrraedd uchafbwynt o £7.42/kg ym mis Mai, sef rhyw 23 y cant yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol. “Hyd yma eleni, mae’r pris pwysau marw wedi bod yn well o lawer nag yn y blynyddoedd blaenorol.  Dyma’r tro cyntaf i brisiau ŵyn pwysau marw fynd dros £6/kg yn ystod wythnosau cyntaf mis Chwefror,” meddai Glesni.

“Mae niferoedd yr ŵyn sy’n dod ar y farchnad bob wythnos hyd yn hyn eleni wedi bod yn is nag yn yr wythnosau cyfatebol yn 2023  – cyfanswm o bron i 221,600 o ŵyn, sef, rhyw wyth y cant yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol. Rhagwelwyd y tyndra hwn yn y cyflenwad ŵyn ac mae’n debygol o fod yn gymorth i’r cyfartaledd pwysau marw. Mae’r prisiau pwysau byw cyfartalog a’r prisiau cyfartalog yn y siopau hefyd yn gryf ar hyn o bryd.

Mae’n bosibl y bydd effeithiau’r mewnforion o Awstralia, sy’n cynyddu yn dilyn y Cytundeb Masnach Rydd a ddechreuodd ddiwedd mis Mai 2023 a’r newidiadau a ragwelir yn y dirwedd wleidyddol, yng Nghymru yn arbennig, yn ddylanwadol yn ystod y misoedd nesaf.

Mae’r adroddiad - Cyflenwad Cig Oen: Y Diweddaraf a’r Rhagolygon – ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/dadansoddir-farchnad


You may also like

Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
HCC yn cynnal gweminar ar ganfod a rheoli clefydau rhewfryn mewn defaid
HCC yn cynnal gweminar ar ganfod a rheoli clefydau rhewfryn mewn defaid
HCC yn targedu gweithwyr iechyd proffesiynol gyda gwybodaeth am gig coch
HCC yn targedu gweithwyr iechyd proffesiynol gyda gwybodaeth am gig coch
Uchafbwyntiau prisiau yn nodi blwyddyn fywiog ar gyfer cig oen a chig eidion
Uchafbwyntiau prisiau yn nodi blwyddyn fywiog ar gyfer cig oen a chig eidion