Mae diwydiant cig coch Cymru unwaith eto yn cydweithio ar gyfer Wythnos Caru Cig Oen, 1–7 Medi 2026, i ddathlu’r ffermwyr, tirweddau a’r bwyd sydd wrth wraidd cynhyrchu cig oen.
Bellach yn ei 11ed flwyddyn, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn arwain yr ymgyrch Gymreig, ochr yn ochr â'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn Lloegr, Quality Meat Scotland (QMS) yn yr Alban a'r Comisiwn Da Byw a Chig (LMC) yng Ngogledd Iwerddon.
Caiff yr ymgyrch ei gefnogi hefyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Defaid (NSA), Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU), NFU Yr Alban, Undeb Ffermwyr Ulster a'r Tractor Coch – yn ogystal ag ystod eang o gefnogwyr a rhanddeiliaid y diwydiant.
Gan ddefnyddio'r ymgyrch sefydledig, Cig Oen Amdani, bydd Wythnos Caru Cig Oen 2026 yn canolbwyntio ar ddwy thema ganolog, sef y bobl a'r broses y tu ôl i gynhyrchu cig oen ledled y DG, a'r amrywiaeth eang o brydau blasus ac amlbwrpas y gellir eu gwneud gan ddefnyddio cig oen. Bydd y cynnwys a rennir drwy gydol yr ymgyrch yn tynnu sylw at y ffermwyr a'r dulliau cynhyrchu sydd wrth wraidd y diwydiant. Bydd hefyd yn rhoi syniadau ymarferol ac ysbrydoledig i ddefnyddwyr ar gyfer mwynhau cig oen gartref.
Bydd HCC yn cefnogi Wythnos Caru Cig Oen drwy gyfrwng teledu, fideo-ar-alw a hysbysebu digidol. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal ar draws cyfryngau cymdeithasol a sianeli'r wasg, gan gynnwys storïau am ffermwyr a ryseitiau sydd yn hyrwyddo amlbwrpasedd Cig Oen Cymru. Yn ogystal, bydd HCC yn cyfathrebu â mwy na 30,000 o danysgrifwyr drwy ei gylchlythyr i ddefnyddwyr ac mae'n datblygu gweithgareddau hyrwyddo posibl ar gyfer dylanwadu a manwerthu ac ar becynnau.
Dywedodd Pip Gill, Rheolydd Marchnata yn Hybu Cig Cymru (HCC): “Mae Wythnos Caru Cig Oen yn gyfle gwych i ddathlu Cig Oen Cymru a'r ffermwyr sy'n ei gynhyrchu. Mae tirwedd laswelltog Cymru yn darparu'r amgylchedd delfrydol ar gyfer cynhyrchu cig oen o ansawdd uchel, sy'n enwog am ei flas a'i ansawdd gartref a thramor.
''Rydym yn falch o gefnogi'r ymgyrch Cig Oen Amdani ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid ledled y DG i arddangos y gofal a'r arbenigedd y tu ôl i gynhyrchu cig oen. Gall defnyddwyr sy'n chwilio am ysbrydoliaeth ddarganfod cannoedd o ryseitiau Cig Oen Cymru blasus yn eatwelshlamb.com.”
Sefydlwyd Wythnos Caru Cig Oen gan ffermwr defaid o Cumbria, Rachel Lumley, yn 2015 i annog defnyddwyr i fwynhau cig oen yn ystod ei dymor brig ac i wella dealltwriaeth o'r bobl a'r gwaith sy'n gysylltiedig â'i gynhyrchu. Ers ei sefydlu, mae’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol bod yn sbardun sylweddol y tu ôl i ymgyrch Wythnos Caru Cig Oen – gyda'i chyfrifon cymdeithasol yn cael eu defnyddio'n helaeth i ledaenu negesau’r ymgyrch: @LoveLambWeek ar Facebook a @LoveLambUK ar Instagram.
Bydd ffermwyr ac eraill sy'n gweithio ledled y sector defaid yn cael eu hannog i gymryd rhan trwy rannu eu profiadau, eu delweddau a'u straeon eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol. Nod yr ymgyrch yw helpu defnyddwyr i ddeall yn well o ble mae cig oen yn dod trwy ddangos iddynt gyfraniad ffermio tuag at gynhyrchu bwyd, cymunedau gwledig a thirweddau'r DG.





