Mae rhifyn mis Gorffennaf o Fwletin y Farchnad HCC yn archwilio’r ystadegau trwybwn lladd-dai a ryddhawyd yn ddiweddar gan Defra ar gyfer mis Mehefin.
Ymhlith y pwyntiau allweddol mae:
- Cynhyrchu cig eidion ar gyfer hanner cyntaf eleni yn debyg i 2025 er gwaethaf trwybwn is
- Trwybwn cig defaid ar gyfer 2026 hyd yn hyn hefyd yn is na'r llynedd gyda disgwyl i gyflenwadau defaid y DG aros yn gymharol dynn yn ystod ail hanner 2026
- Wrth edrych ymlaen, mae cyflenwadau cyfyng o dda byw mewnwladol yn debygol o barhau i fod yn nodwedd allweddol o'r farchnad. Disgwylir i brisiau cig eidion barhau i gael eu cynnal yn dda gan argaeledd cyfyngedig o wartheg , tra gall cyflenwadau tynnach o ddefaid helpu i ategu prisiau ŵyn, os yw galw defnyddwyr yn parhau i fod yn gryf yn ystod ail hanner y flwyddyn
I gael dadansoddiad llawn, cliciwch yma i weld Bwletin y Farchnad ar gyfer mis Gorffennaf. Mae hefyd yn cynnwys crynodeb marchnad misol o brisiau diweddaraf gwartheg, defaid a moch, yn ogystal â chais am adborth i Fwletin y Farchnad. Rhowch wybod i ni beth hoffech i ni ei gynnwys yn y dyfodol drwy gwblhau'r arolwg byr hwn: Holiadur Bwletin y Farchnad HCC Market Bulletin Survey 2026





