Skip to content

Adroddiad Terfynol yn Cofnodi Cyflawniadau Cynllun Gweithredu

Adroddiad Terfynol yn Cofnodi Cyflawniadau Cynllun Gweithredu

Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC, wedi cymeradwyo adroddiad blynyddol terfynol y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru, a oedd yn cynnwys cofnod cynhwysfawr o gyflawniadau a chanlyniadau’r cynllun dros gyfnod o chwe blynedd.

Lansiwyd y Cynllun Gweithredu Strategol, a gafodd ei ddatblygu gan Hybu Cig Cymru (HCC) wrth ymgynghori’n agos â’r diwydiant cig coch yng Nghymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn Ebrill 2009 gan y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd. Cwblhaodd ei waith ym mis Mawrth 2015.

At ddibenion monitro cywir o bob agwedd ar y Cynllun Gweithredu Strategol, rhannwyd y gweithgareddau yn ddeg rhan: hyrwyddo; gweithgarwch ymchwil a hyfforddiant; iechyd a lles anifeiliaid; diogelu'r amgylchedd; cymorth ar gyfer dysgu a newydd-ddyfodiaid; integreiddio’r gadwyn gyflenwi; datblygu cynnyrch; lledaenu gwybodaeth a chyngor; datblygu rheoleiddio a chynllunio wrth gefn.

Wrth werthuso allbynnau a pherfformiad, roedd pwyllgor monitro’r Cynllun Gweithredu Strategol yn cydnabod cynnydd sylweddol yn ôl pob targed yn y deg categori a restrwyd ers lansio’r Cynllun Gweithredu Strategol yn 2009. Roedd hefyd yn cofnodi manylion llawn am y cynnydd a wnaed yn 2014-15, ac yn gyffredinol, yn ei adroddiad terfynol.

Datblygwyd Cynllun Gweithredu Strategol newydd ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru (Dyfodol y Diwydiant), gyda nodau wedi’u mireinio a’u ehangu, gan HCC mewn ymgynghoriad agos â chadwyn gyflenwi cig coch Cymru a Llywodraeth Cymru, i fwrw ymlaen â'r cynnydd a wnaed yn ystod y chwe blynedd flaenorol. Fe’i lansiwyd ym mis Gorffennaf 2015.

I ddarllen yr Adroddiad Monitro Blynyddol, cliciwch yma.