Skip to content

Amser yn prinhau i hawlio gwobrau porc

Amser yn prinhau i hawlio gwobrau porc

Fel rhan o’i waith i hybu’r porc gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, mae’r corff cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynnig cyfle i gwsmeriaid i ennill hamper o gig moch oddi wrth eu cyflenwr lleol yn ogystal â diwrnod i’r brenin i griw o’u teulu a ffrindiau sy’n cynnwys dosbarth coginio arbenigol.

Ond bydd angen gweithredu ar hast gan fod y gystadleuaeth, sy’n cael ei drefnu trwy’r wefan Porc.Cymru, yn dod i ben ar 17 Tachwedd. Er mwyn cael y cyfle i ennill y wobr wych hon, y cyfan y mae’n rhaid i ymgeiswyr ei wneud yw dod o hyd i’w cyflenwr porc agosaf gan ddefnyddio’r map CanfodPorc Lleolar-lein, a rhoi gwybod i Porc.Cymru drwy ei ffrydiau cymdeithasol.

Meddai Kirstie Jones, Swyddog Datblygu’r Farchnad HCC, “Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Mae ffermydd porc yn rhai bach ac arbenigol. Caiff moch eu magu mewn cenfeiniau bach ac mae gan ffermwyr porc yng Nghymru werthoedd gweledigaethol ond traddodiadol ar yr un pryd. Yn aml mae gan ein ffermwyr Cymreig mwy traddodiadol gadwyni cyflenwi byrrach. Mae hyn yn helpu i gefnogi busnesau lleol ac mae’n well i’r amgylchedd.”

Bydd yr enillydd lwcus a saith gwestai yn cael profiad coginio ymarferol gydag Angela yn ei Hysgol Goginio yng Ngwinllan Llanerch ym Mro Morgannwg.

Bydd y diwrnod yn cynnwys paratoi a choginio amrywiaeth o brydau er mwyn dangos yr holl ffyrdd gwahanol y gallwch goginio porc, o goginio’n araf, mygu’n boeth a barbeciwio i wneud selsig, ei stwffio a’i rwymo a chreu’r borc-pei berffaith.

Meddai Angela Gray, “Dwi’n mwynhau coginio gyda phorc ac mi fyddwn ni’n rhoi cynnig ar ryseitiau syml, ond blasus dros ben. Dwi bob amser yn ymdrechu i ddefnyddio cynnyrch lleol a dwi’n hoffi cefnogi ffermwyr a chigyddion lleol. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddangos pa mor hyblyg y mae porc yn gallu bod a chael pobl yn gyffrous am goginio gydag ef.”