Skip to content

Cadeirydd HCC yn Amlinellu Cynllun Cig Coch ôl-Frexit

Cadeirydd HCC yn Amlinellu Cynllun Cig Coch ôl-Frexit

Mae Cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC) wedi amlinellu strategaeth allforio ddeng mlynedd er mwyn manteisio ar gyfleon marchnad yn fyd-eang i gig coch yng nghynhadledd flynyddol y corff ym Mangor ddoe (10 Tachwedd).

Dywedodd Dai Davies fod allforion Cymreig yn hollbwysig ar gyfer adeiladu brand, cynaliadwyedd y diwydiant, cadw prisiau’n sefydlog, ac ychwanegu gwerth i’r gadwyn gyfan. Pwysleisiodd record HCC; “O dan oruchwyliaeth bu twf mewn allforion o thua £50m pan gychwynnon ni yn 2003 i ffigwr o £250m ddwy flynedd yn ôl,” meddai.

“Ry’n ni nawr yn dylunio strategaeth allforio ddeng mlynedd ac rwy’n ceisio partneriaeth lawn y Llywodraeth er mwyn cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol hyn,” meddai wrth gynrychiolwyr o’r diwydiant yng nghynhadledd HCC, ‘Chwifio’r Faner: Rhannu rhagoriaeth mewn economi newydd’ ym Mharc Menai.

Gofynnodd Mr. Davies am gefnogaeth bersonol Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cabinet ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig a siaradodd yn y gynhadledd, fel prif ladmerydd i’r rhaglen allforio uchelgeisiol. “Gall y Gweinidog Cabinet agor drysau i ni, gwneud y mwyaf o’r marchnadoedd hynny lle mae gennym fynediad ac arwain ymdrech ddiplomataidd fydd yn helpu’n tîm allforio i sicrhau mwy o gwsmeriaid ym mhedwar ban byd.”

Tynnodd Mr. Davies sylw at gryfderau masnachol cynnyrch cig coch PGI Cymru. “Er ein bod yn cwrdd heddiw ar gefndir o ansicrwydd dros delerau masnach yn y dyfodol ym Mhrydain yn dilyn y refferendwm, mae dau beth yn parhau’n ddigyfnewid ac yn gadarn. Safon a blas unigryw Cig Oen a Chig Eidion Cymru, a phwysigrwydd brand Cig Oen Cymru i’n gwlad ac i enw da Cymru oddi cartref.”

Cig Oen yw’r cynnyrch enwocaf sydd gan Gymru. “Gall Gig Oen Cymru chwifio’r faner dros Gymru. Mae’n frand eiconig. Rwy’n credu y gall fod yn frand sy’n arwain ymdrechion i allforio cynhyrchion Cymreig eraill. Gall gyflawni rôl i Gymru yn debyg i Whisgi yr Alban neu Champagne Ffrainc. Gall helpu i gynyddu’n proffil fel cenedl, i ysbrydoli ac arwain allforion a helpu i adeiladu platfform ehangach ac enw da i safon uchel cynnyrch Cymru,” meddai.

Ychwanegodd fod HCC nawr yn gweithio gyda’r diwydiant i helpu allforio Cig Oen Cymru, neu ynghlwm â thrafodaethau ynglŷn â’i allforio, i 45 o wledydd ar draws y byd o Ganada i Hong Kong, a gogledd Affrica i Norwy. Ond, mae nifer o’r gwledydd hyn ym mhell ar ei hôl hi o ran y galw am gynnyrch o gymharu â’r marchnadoedd aeddfed a dibynadwy megis y rheiny o fewn yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cynrychioli mwy na 90 y cant o’n masnach dramor.

“Gyda’r diffyg cydbwysedd yma yn ein masnach, yn enwedig o ran Cig Oen, mae’n hanfodol ein bod yn amddiffyn ac yn datblygu ein marchnadoedd o fewn Ewrop,” meddai Mr. Davies. “Allwn ni ddim cymryd cam yn ôl, nac ychwaith sefyll yn stond. Fedrwn ni ddim fforddio cael eu cau allan neu i gael rhwystrau yn ein ffordd o ran allforio i’r marchnadoedd craidd hyn ac rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am ddadlau dros amgylchedd di-doll ar ôl Brexit o fewn fframwaith cytundeb masnach deg. Bydd ganddo ef, a’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ein cefnogaeth lwyr fel diwydiant wrth geisio gwireddu’r amcanion yma.”