Skip to content

Camau bioddiogelwch i atal clefyd moch dros yr haf

Camau bioddiogelwch i atal clefyd moch dros yr haf

Mae cynhyrchwyr porc yng Nghymru yn cael eu hannog, ar drothwy tymor sioeau’r haf, i lynu at arferion bioddiogelwch llym.

Wrth i bobl, cerbydau ac anifeiliaid symud rhwng ffermydd moch, mae yna wir berygl o ledaenu clefydau fel Firws Dolur Rhydd Epidemig y Moch (PEDv), haint sy'n achosi dolur rhydd difrifol mewn moch o bob oed, a marwolaeth i lawer o foch bach.

Mae math milain iawn o'r feirws wedi cael effaith ddifrifol ar y diwydiant moch yng Ngogledd America ac erbyn hyn mae wedi lledaenu i'r Wcráin. Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn dal i fonitro'r sefyllfa yn Ewrop er mwyn ceisio atal y clefyd rhag dod i mewn i'r DG. Yn Lloegr, lle mae  nifer fawr o foch yn agos i’r llwybrau cludiant Ewropeaidd, gwnaed PEDv yn glefyd hysbysadwy ym mis Rhagfyr 2015.

“Er nad yw PEDv yn hysbysadwy yng Nghymru, mae’r sawl sy’n cadw moch yn cael eu hannog i gymryd camau nawr i leihau'r risg o PEDv a chlefydau eraill yn cael eu cyflwyno i'w heiddo a’u moch,” meddai Dr Julie Finch, Rheolwraig Strategaeth a Pholisi Corfforaethol HCC.

“Bydd HCC yn ymuno â Chyswllt Ffermio yng Ngŵyl Wanwyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i gynnal cyfres o arddangosiadau i ddangos i gynhyrchwyr moch sut i gymryd y camau priodol i drafod eu moch yn ddiogel a’u cadw’n iach.”

Dywedodd y dylid glynu at egwyddorion bioddiogelwch cyffredinol i leihau'r risg o glefyd.  Mae’r rhain yn cynnwys

cyfyngu ar fynediad i ymwelwyr;

gofyn i bobl beidio ag ymweld os ydyn nhw wedi bod yn agos i foch yn ystod y ddau ddiwrnod blaenorol;

rhoi oferôls ac esgidiau glân i ymwelwyr a golchi a diheintio’r rheini ar ôl eu defnyddio

defnyddio dipiau i ddiheintio traed;

ystyried gosod arwyddion cwrtais sy’n gofyn i bobl beidio â dod i mewn;

defnyddio ffensys a chlwydi a gosod arwyddion i gyfyngu mynediad i’r lle mae moch yn cael eu cadw ar y fferm;

bod yn ofalus wrth brynu moch a chyflenwadau. Holwch bob tro am statws iechyd unrhyw anifeiliaid rydych chi'n eu prynu neu'n eu symud a mynnwch air â’r ffermwr a’i filfeddyg; 

rheoli mynediad bywyd gwyllt.

“Mae llinell wahanu yn ffordd dda o wahaniaethu rhwng cyfleusterau fferm, ei hanifeiliaid a’i staff a lorïau, trelars a phobl y mae’n rhaid iddyn nhw aros y tu allan i'r lle mae moch yn cael eu cadw. Gallai hyn gynnwys cludwyr, dosbarthwyr bwyd anifeiliaid, contractwyr yn symud tail ac ati," meddai Dr Finch. “Cofiwch, os yw cyflenwr yn dod â phethau sy'n gysylltiedig â moch i chi - fel bwyd moch a chyfarpar - y tebygolrwydd yw ei fod wedi ymweld ag uned foch arall. Peidiwch â gadael i’r cerbyd a’r gyrrwr fynd yn rhy agos at eich moch. Os oes modd,  dylid dadlwytho ar gyrion eich eiddo.

“Prif ffynhonnell PEDv yw tail wedi’i heintio. Gall unrhyw beth sydd wedi'i halogi â hyd yn oed ychydig bach o dail heintiedig drosglwyddo’r haint i foch eraill. Gall glanhau a diheintio effeithiol ddifa’r pathogenau sydd ar wyneb cerbydau, dillad ac offer.”

I gael rhagor o wybodaeth am PEDv, ewch i wefan HCC: 

 

http://hccmpw.org.uk/farming/animal_health_and_welfare/porcine_epidemic_diarrhoea_virus/