Skip to content

Canu clodydd Cig Oen Cymru mewn gŵyl flaenllaw

Canu clodydd Cig Oen Cymru mewn gŵyl flaenllaw

Bydd lle amlwg i Gig Oen Cymru yn un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf Prydain y penwythnos nesaf pan gaiff y cig ei weini i'r sêr yng Ngŵyl V sy'n cael noddi gan Virgin Media yn Chelmsford.

Bydd Tom Jones, Paloma Faith, The Stereophonics, Sam Smith, Olly Murs, The Script, Ellie Goulding, Gregory Porter, Calvin Harris a Kasabian ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan.

A bydd Cig Oen Cymru yn cael ei weini i’r artistiaid, cyfryngau a phobl amlwg eraill yng Nghegin Luke, sy’n cael ei rhedeg gan y pen-cogydd ifanc Luke Thomas o Ogledd Cymru.

"Rydym yn hapus iawn i fod yno yn hyrwyddo Cig Oen Cymru am y tro cyntaf yng Ngwyl V, ac yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Luke sydd â phrofiad coginio sylweddol a doethineb ymhell y tu hwnt i’w oedran ifanc," meddai Pip Gill, Swyddog Gweithredol Datblygu Brandiau gyda Hybu Cig Cymru (HCC).

“Credwn taw Gŵyl V yw'r lle iawn ar yr amser iawn i hyrwyddo nodweddion unigryw, tarddiad a gwerth eithriadol Cig Oen Cymru i gynulleidfa lawer ehangach fel rhan o'n hymgyrch farchnata fawr ar draws Prydain.

“Mae hefyd yn gyfle i ni ymgysylltu'n uniongyrchol â mynychwyr yr Ŵyl trwy’r cyfryngau cymdeithasol. #SummerLlovin’.

“Rydym wedi gweithio'n llwyddiannus ar sawl achlysur gyda Luke ac rydym yn gwybod nad yw'n anarferol iddo weini Cig Oen Cymru oherwydd mae’n gefnogwr brwd o’r cig byth ers pan oedd yn ei arddegau," meddai Mrs Gill.

“Mae gan Luke bopeth dan reolaeth ac mae’n barod ar gyfer y penwythnos i fodloni archwaeth y llu o artistiaid, newyddiadurwyr a phobl bwysig a fydd yn ymweld â Chegin Luke y tu ôl i'r llwyfan.

“Rydym yn ffyddiog fod hyrwyddo Cig Oen Cymru yng Ngŵyl V yn beth da oherwydd mae'n rhoi llwyfan unigryw i estyn allan i gynulleidfa newydd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw flasu ryseitiau blasus Luke.”

Mae Luke wedi gweithio'n agos gyda HCC ers ei fod yn 14 oed, gan gynnal arddangosiadau coginio ar stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru.

Ar ôl nifer o lwyddiannau pan oedd yn ei arddegau a phrofiad o weithio gyda phen-cogyddion gorau'r DG, ef oedd y perchennog a phen-cogydd ieuengaf ym Mhrydain pan agorodd ei dŷ bwyta cyntaf, Luke’s Dining Room, pan oedd yn 18 oed.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, sefydlodd Retro Feast, sef ystafell fwyta chwap gymdeithasol gyffrous yn Mayfair, ac yn ddiweddar mentrodd dramor i agor ystafell fwyta arall yn Dubai. Mae ganddo fwytai hefyd yng Nghernyw a Chaer, mae wedi ymddangos droeon ar raglenni teledu ac mae wedi cyhoeddi ei lyfr coginio cyntaf.