Skip to content

Carcasau yn dal i wella o ran eu cydffurfiad

Carcasau yn dal i wella o ran eu cydffurfiad

Mae’r canlyniadau dosbarthiad carcasau diweddaraf o ladd-dai yng Nghymru yn dangos fod y gwelliant mewn safonau cydffurfiad wedi parhau yn 2015.

Yn ôl y ffigurau, roedd dros 10 y cant o'r carcasau cig oen yn nosbarth cydffurfiad 'E', sef y dosbarth uchaf posibl yn ôl grid dosbarthiad EUROP sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.  Mae hyn bron ddwywaith yn fwy na phedair blynedd yn ôl. Bu cynnydd hefyd yn nosbarth 'U', a gostyngiadau yn nosbarthiadau 'O'  a 'P', sef y dosbarthiadau isaf.

Dywedodd John Richards, Gweithredwr Gwybodaeth y Diwydiant yn Hybu Cig Cymru (HCC), fod y canlyniadau hyn yn bennaf oherwydd y defnydd cynyddol o hyrddod a mamogiaid â geneteg uwchraddol ar gyfer nodweddion cydffurfiad.

“Mae'r canlyniadau hyn yn dangos y gallwn, fel cynhyrchwyr, newid cyfansoddiad genetig ein diadelloedd mewn cyfnod cymharol fyr. Mae'r defnydd o hyrddod terfynol wedi gwella’r nodweddion genetig ar gyfer cydffurfiad yn ystod y degawd diwethaf, ac rydym bellach yn gweld canlyniadau hyn.”

Er bod y gwelliant yng nghanlyniadau cydffurfiad yn galonogol, yn enwedig y gostyngiad yn y dosbarthiadau isaf, dylai ffermwyr, wrth ddewis ŵyn i'w lladd, roi blaenoriaeth i ofynion y farchnad a’r rhagofynion penodol.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos cynnydd yn nifer yr ŵyn sydd wedi’u gorffen yn ormodol ac yna’u marchnata, a hynny, o bosib, yn sgil ffermwyr yn ceisio gwella pwysau carcasau mewn ymateb i’r prisiau isel a wynebwyd y llynedd. 

Ychwanegodd Mr Richards: “Dylai pob ffermwr wneud yn siŵr ei fod yn deall yn union yr hyn y mae’r farchnad yn ei ddisgwyl. Mae marchnadoedd gwahanol megis archfarchnadoedd, allforwyr a’r sector arlwyo yn chwilio am wahanol fathau o ŵyn. Er mwyn cael yr enillion gorau, rhaid i ffermwyr wneud yn siŵr fod yr ŵyn sy’n cael eu gwerthu yn ateb gofynion y  marchnadoedd hynny.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd llawer o ffermwyr ledled Cymru yn dewis eu hŵyn cyntaf y tymor hwn. Cyn gwneud y dewis, byddem yn eu cynghori i sicrhau eu bod yn dewis ŵyn sy’n cwrdd â gofynion y farchnad a fwriedir ar eu cyfer – o ran pwysau a chydffurfiad.”