Skip to content

Cig Oen Cymru a Gŵyl Rhif 6 - Cyfuniad Perffaith

Cig Oen Cymru a Gŵyl Rhif 6 - Cyfuniad Perffaith

eth sydd gan Steve Coogan, seren ar y teledu ac ym myd ffilmiau, James Morrison, cerddor sydd wedi cyrraedd brig y siartiau, ac Irvine Welsh, awdur hynod lwyddiannus, yn gyffredin â Chig Oen Cymru? 

Yr ateb yw eu bod i gyd yn ymddangos yng Ngŵyl Rhif 6, y digwyddiad cerddoriaeth a chelfyddydau unigryw a gynhelir ym mhentref Eidalaidd hyfryd Portmeirion.

“Mae Gŵyl Rhif 6 wedi tyfu'n sylweddol ers cael ei lansio dair blynedd yn unig yn ôl, ac, yn ogystal â'r bobl fwyaf dawnus o fyd cerddoriaeth a'r celfyddydau, mae'n denu cynulleidfa sy'n mwynhau pethau gorau bywyd, yn enwedig bwyd," meddai Pip Gill, Swyddog Gweithredol Marchnata Brand Hybu Cig Cymru (HCC).

“Felly roedd yn lleoliad amlwg ar gyfer hybu ymhellach darddiad Cig Oen Cymru i gynulleidfa werthfawrogol o gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid.

“Mae Gŵyl Rhif 6 yn ymfalchïo ei bod yn ŵyl unigryw ac mae Cig Oen Cymru yn ymfalchïo nad oes cig oen tebyg iddo, felly mae'n gyfuniad perffaith.”

Bydd gan HCC gegin symudol ym Mhortmeirion drwy gydol yr ŵyl lle bydd cogyddion sy’n arbenigwyr yn rhoi arddangosiadau coginio ac yn rhoi cyfle i bobl flasu rhai o'r prydau Cig Oen Cymru blasus y gellir dod o hyd iddynt ar wefan HCC - www.eatwelshlambandwelshbeef.com/cy

Mae Gŵyl Rhif 6, a ddisgrifiwyd fel 'gwledd arbennig o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant yn y lleoliad mwyaf trawiadol yn y byd ar gyfer cynnal gŵyl', yn cael ei chynnal rhwng 3 a 6 Medi.

Mae'r ŵyl wedi'i henwi ar ôl cymeriad Patrick McGoohan yn y gyfres deledu gwlt o'r chwedegau, The Prisoner, a gafodd ei ffilmio ym Mhortmeirion.