Skip to content

Cig Oen Cymru’n Taro Tant yn Hong Kong

Cig Oen Cymru’n Taro Tant yn Hong Kong

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi croesawu cam ymlaen i allforion cig coch Cymreig i Asia, wrth i gangen o’i Glwb Cig Oen Cymru gael ei ffurfio yn Hong Kong wythnos diwethaf.

Mae Clwb Cig Oen Cymru HCC yn cynnwys pen-cogyddion a pherchnogion bwytai sydd wedi ymrwymo i gynnwys Cig Oen Cymru PGI ar eu bwydlenni. Mewn derbyniad yng ngwesty Grissini yn y Grant Hyatt yn Hong Kong, cyflwynodd Prif Weithredwr HCC Gwyn Howells dystysgrifau i bedwar aelod newydd o’r Clwb – y cogyddion Albert Au, Calvin Soh a Kenneth Law, a’r rheolwr bwyty Kevin Lee.

Yn ogystal, yn ystod eu hymweliad cynhaliodd Gwyn Howells a Deanna Leven o HCC gyfarfodydd gyda nifer o fanwerthwyr yn Hong Kong sy’n gwerthu Cig Oen Cymru PGI, a chynrychiolwyr cwmnïau mewnforio bwyd, er mwyn trafod sut i gynyddu’r farchnad am Gig Oen a Chig Eidion Cymru.

“Mae sefydlu cangen o’r Clwb Cig Oen Cymru yn Asia yn arwydd fod ein brand ar gynnydd yn y marchnadoedd hyn,” meddai Gwyn Howells, Prif Weithredwr HCC. “Mae’r aelodau newydd o’n Clwb Cig Oen Cymru yn cynrychioli pedwar o fwytai penigamp yn Hong Kong a Macau. Maent oll wedi ymrwymo i weini Cig Oen Cymru PGI o’r safon gorau, a byddant yn llysgenhadon dylanwadol i’n cynnyrch.

“Mae gennym bartneriaid penigamp yn Hong Kong sydd werth eu bodd yn marchnata cig coch o Gymru fel rhan o’u darpariaeth o fwyd o’r safon flaenaf,” ychwanegodd. “O siarad gyda mewnforwyr a manwerthwyr, rwy’n hyderus y gallwn dyfu’r brand ymhellach, a helpu’n cynhyrchwyr i gael mwy o werthiant yn yr ardal.”

“Yn ogystal, mae presenoldeb yn Hong Kong a Macau yn golygu fod gennym droed yn y drws gogyfer â’r dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gael mynediad ar gyfer allforion cig coch i’r farchnad anferth yn Tsieina.”