Skip to content

Creu cynnyrch at ddant cwsmeriaid cig oen Prydain

Creu cynnyrch at ddant cwsmeriaid cig oen Prydain

Mae grwp traws-ddiwydiannol wedi cwrdd ym mhencadlys Hybu Cig Cymru (HCC) i drafod y sialens o ddenu cwsmeriaid newydd i brynu cig oen o fewn y farchnad Brydeinig.

Cyfarfu swyddogion marchnata HCC gyda chynrychiolwyr o ganolfannau arloesi bwyd Cymru a rhai o brif ddarparwyr hyfforddiant i’r sector arlwyo, er mwyn trafod ffyrdd y gall ddatblygu mathau newydd o gynnyrch roi hwb i’r diwydiant cig coch. Roedd Peter Rushforth hefyd yn bresennol, sef y cigydd o Sir Fflint sydd wedi ennill sawl gwobr ac sydd newydd ddychwelyd o daith ysgoloriaeth HCC i’r Unol Daleithiau lle bu’n astudio’r defnydd o doriadau a gwahanol fathau o gigoedd oer.

Dangosodd ymchwil gan HCC a’r arbenigwyr Kantar Worldpanel y llynedd fod potensial i gynyddu gwerthiant cig oen o £85 miliwn, gyda Chig Oen Cymru PGI premiwm yn hawlio cyfran sylweddol o hyn, trwy ddatblygu dewisiadau cyfleus newydd i gwsmeriaid.

“Wrth gwrs, bydd y rhan fwyaf o’r cynnyrch newydd fydd cwsmeriaid yn ei weld yn cael ei ariannu gan broseswyr a manwerthwyr,” meddai Rheolwr Marchnata HCC Rhys Llywelyn. “Ond mae gan HCC, gan gydweithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant, rôl mewn datblygu syniadau newydd ar y cam cynta, cyn-gystadleuol, fydd yn helpu’r diwydiant i ddenu cwsmeriaid newydd.

“Yn achos cig oen yn enwedig, mae pryniant yn uwch ymhlith pobl sydd dros 55 oed nag ydyw ymhlith pobl iau,” ychwanegodd Rhys. “Gwnaethon ni ymchwil y llynedd ar sut i ddefnyddio cynnyrch cyfleus i ddenu cwsmeriaid ifanc i brynu cig oen, ac mae gwaith yn mynd rhag blaen ar gynnyrch ‘Barod i’w Goginio’ ac opsiynau tebyg.

“Ond mae’n rhaid i ni archwilio ystod eang o syniadau a chyd-lynnu gwaith sy’n digwydd ar draws y diwydiant, felly roedd yn ddefnyddiol i gynnal y cyfarfod yma gydag ystod o bartneriaid. Byddwn yn parhau â’r gwaith yma dros y misoedd nesaf, gan archwilio sut y gallwn sicrhau cyllid er mwyn datblygu mathau newydd o gynnyrch cig oen, ac arddangos rhai o’r syniadau sydd eisoes ar waith yn y Sioe Frenhinol a digwyddiadau eraill,” ychwanegodd.