Skip to content

Cwrs yn hybu gwybodaeth y diwydiant

Cwrs yn hybu gwybodaeth y diwydiant

Mae cyfres o 35 o gyrsiau arbenigol gan Hybu Cig Cymru (HCC) wedi hybu gwybodaeth y diwydiant cig coch am yr hyn sydd orau gan siopwyr a sut mae lladd-dai yn gweithio, yn ôl adborth gan y rhai fu’n mynychu’r cyrsiau yn ystod y deuddeng mis diwethaf.

Bu bron 400 o gynrychiolwyr y diwydiant yn y cyrsiau dosbarthiad carcasau a gynhaliwyd gan HCC mewn lladd-dai ledled Cymru. Roedd y cyrsiau yn ymwneud â dewis ac asesu anifeiliaid byw, archwilio a graddio carcasau, gofynion cyfredol y lladd-dy a’r defnyddiwr ac iechyd a lles anifeiliaid. Roeddynt hefyd yn cynnig cymorth i chwalu’r rhwystrau rhwng ffermwyr a phroseswyr trwy esbonio’n fanwl yr hyn sy’n ofynnol a’r angen i dargedu enillion o garcas cyfan wrth fagu anifeiliaid.

“Mae HCC yn falch fod yr adborth ffurfiol yn dangos fod y cyrsiau ‘Dewis Carcasau’ wedi cael derbyniad mor dda,” meddai Luned Evans, Swyddog Datblygu'r Diwydiant. “Mae’n dangos fod y rhai fu’n cymryd rhan o’r farn bod eu gwybodaeth arbenigol wedi cynyddu rhwng 30 a 50 y cant oherwydd y cyrsiau.”

Roedd y canlyniadau’n gyson ar gyfer pob lleoliad a rhywogaeth. “Does dim un ohonom yn gallu rheoli’r ffactorau byd-eang sydd wedi cael effaith ddifrifol ar brisiau ŵyn yn ystod y deuddeng mis diwethaf, ond mae’r cyrsiau hyn yn dangos y gall ffermwyr ymladd yn ôl a chael y gwerth gorau o bob anifail wrth ddiwallu gofynion y defnyddiwr.”

Mae’r cyrsiau yn bennaf yn ymwneud â chig oen, ond mae HCC hefyd yn trefnu cyrsiau cig eidion a phorc.  “Bydd y cyrsiau’n ailddechrau ym mis Mai, ac os oes rhywun am fynychu’r rhain, dylen nhw gysylltu â HCC,” meddai Miss Evans.