Skip to content

Cynhadledd athrawon yn trafod her maeth yn yr arddegau

Cynhadledd athrawon yn trafod her maeth yn yr arddegau

Mae perswadio pobl yn eu harddegau i fwyta diet cytbwys a’u haddysgu am ble y daw eu bwyd yn her fawr i’n cymdeithas. Dyna oedd themâu allweddol cynhadledd o athrawon o bob rhan o Gymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd.

Cafodd y gynhadledd ei chyd-drefnu gan Hybu Cig Cymru (HCC) a ‘Meat and Education’, ac fe glywodd athrawon gan nifer o siaradwyr arbenigol ar darddiad bwyd a phwysigrwydd diet cytbwys.

Dywedodd Roy Ballam, Rheolwr Gyfarwyddwr y ‘British Nutrition Foundation’, fod traean o blant yn eu harddegau ym Mhrydain dros eu pwysau neu'n ordew. Yn hytrach na bod yn fater syml o fwyta llai, dywedodd Mr Ballam, yr elfen hollbwysig oedd diffyg cydbwysedd ac amrywiaeth yn eu deiet. Adroddodd hefyd fod gan lawer o bobl yn eu harddegau - yn enwedig merched - gymeriant isel iawn o fitaminau a mwynau fel haearn a seleniwm.

Yn ôl siaradwr arall yn y gynhadledd, Swyddog Defnyddwyr HCC Elwen Roberts, mae'r TGAU newydd a lansiwyd eleni mewn ‘Bwyd a Maeth’ gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r mater.

“Gall athrawon chwarae rôl o ran sicrhau bod plant yn eu harddegau yn cael y wybodaeth gywir am ddiet cytbwys”, meddai Elwen. “Mae’r TGAU newydd mewn Bwyd a Maeth, sy'n disodli’r rhai o’r hen gymwysterau, yn gam cadarnhaol gan ei fod yn cymryd golwg eang tuag at y pwnc.”

Ychwanegodd Elwen, “Mae HCC, ynghyd â ‘Meat and Education’, wedi datblygu ystod o adnoddau dysgu i helpu athrawon i gyflwyno'r TGAU newydd ac addysg maeth ar draws y cwricwlwm sy'n pwysleisio tarddiad bwyd a diet cytbwys.”

Hefyd yn ymddangos yn y gynhadledd yng Nghaerdydd oedd y cigydd Steve Morgan o Aberhonddu, a roddodd arddangosfa o sut i baratoi toriadau o gig i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, a Phennaeth Gweithrediadau HCC Prys Morgan, a roddodd gyflwyniad ar darddiad bwyd.

“Mae olrheinedd yn faes allweddol arall y bydd myfyrwyr yn dysgu amdano yn y TGAU Bwyd a Maeth newydd,” meddai Prys, “ac mae hefyd yn gynyddol bwysig i ddefnyddwyr. Mae cynlluniau fel PGI, sef y statws sydd gan Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, yn rhoi hyder i'r defnyddiwr ynglŷn â tharddiad ac ansawdd eu bwyd.”

“Roeddwn wrth fy modd i weld gymaint o athrawon o bob rhan o Gymru yn y gynhadledd,” ychwanegodd Prys. “Bydd HCC yn parhau i gydweithio â'r sector addysg i atgyfnerthu negeseuon cadarnhaol am rôl cig coch a phwysigrwydd diet cytbwys.”