Skip to content

Cynnyrch ac incwm uwch yn y sector cig coch yn 2016

Cynnyrch ac incwm uwch yn y sector cig coch yn 2016

Mae bwletin ystadegol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynhyrchu cig coch i’r sector amaethyddol yng Nghymru.

Yn 2016, gwerth cyfunol cynnyrch defaid a gwartheg oedd y gyfran uchaf o gynnyrch amaethyddol Cymru, sef 44% ohono. Mae cyfanswm gwerth y cynnyrch amaethyddol cyfun yng Nghymru yn £1.4 biliwn ar gyfer y flwyddyn.

Cafwyd gwell prisiau yn y sectorau defaid a gwartheg yn ystod y flwyddyn, yn enwedig ar gyfer da byw wedi pesgi. Fel canlyniad, cafwyd cynnydd yng nghyfanswm gwerth y sector defaid a gwartheg, cynnydd o 4% ac 1% yn ôl eu trefn.

Rhagwelir y bydd y cynnyrch o ddefaid yn £267 miliwn, sef tua £10 miliwn yn uwch na’r ffigurau ar gyfer 2015. Yn ôl John Richards, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant yn Hybu Cig Cymru (HCC): “Y prif reswm am y cynnydd mewn cynnyrch oedd gwelliant yn amodau’r farchnad, yn enwedig yn ail hanner y flwyddyn, yn rhannol am fod y bunt wedi gwanhau mewn cymhariaeth â’r Ewro.

“Yn gadarnhaol, mae bwletin ystadegol arall wedi dangos bod rhagolygon incwm ffermydd yng Nghymru yn 2016/17 wedi cynyddu hefyd yn unol â chynnyrch defaid a gwartheg. Mae’r wybodaeth yma’n ddefnyddiol o ran dangos y tueddiadau hirdymor a gallai roi hyder i’r sector cig coch sydd wedi wynebu, ac yn dal i ddelio â chyfnod o ansicrwydd yn sgil Brexit.”

Rhagwelir bod incwm busnes cyfartalog y fferm ar gyfer ffermydd gwartheg a defaid mewn Ardal Llai Ffafriol yn £27,500 am 2016/17. Mae hyn tua £5,600 yn uwch na’r ffigur ar gyfer y flwyddyn flaenorol (yn ôl prisiau cyfredol), sef cynnydd o 26%. Dyma’r ffigur uchaf a welwyd mewn pum mlynedd.

Meddai John Richards: “Byddai gwell prisiau marchnad ar gyfer gwartheg cig eidion, ac ar gyfer defaid yn enwedig, o’u cymharu â’r cyfnod o 12 mis cyn hynny wedi dylanwadu ar y cynnydd. Y ffactor bwysicaf, fodd bynnag, fyddai’r cynnydd a welwyd mewn Taliadau Fferm Sylfaenol oherwydd y bunt wannach; amcangyfrifir y byddai’r amrywiad hwn yn y gyfradd gyfnewid wedi arwain at gynnydd o 17% yn lefel y taliad. Gobeithio y bydd y taliadau gwell yma yn cynyddu hyder ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnesau.

“Nodwedd drawiadol o’r ffigurau yma yw pwysigrwydd y cymhorthdal tuag at incwm blynyddol y fferm. Heb hwnnw, byddai llawer o ffermydd Cymru yn dangos colled.”

Disgwylir i’r gwelliant a welwyd yn incwm ffermydd Ardal Llai Ffafriol gael ei weld hefyd ar ffermydd gwartheg a defaid ar dir isel yng Nghymru. Yr incwm fferm a ragwelir ar gyfer y math yma o fferm yw £22,000, sef cynnydd o 34% o’i gymharu â ffigurau 2015/16.