Skip to content

Dathlu cychwyn ymgyrch Cig Oen Cymru gyda Chalan Awst – Calan Oen

Dathlu cychwyn ymgyrch Cig Oen Cymru gyda Chalan Awst – Calan Oen

Wrth i’r Sioe Frenhinol ddirwyn i ben, mae’r diwydiant Cig Oen yng Nghymru yn edrych ymlaen at gychwyn ei ymgyrch hyrwyddo haf yn y farchnad Brydeinig. Cafodd ymwelwyr i’r Sioe flas ar arddangosfeydd coginio Cig Oen Cymru gan gogyddion gwych fel Francesco Mazzei, Imran Nathoo a Steffan Davies, ac nawr mae’r ymgyrch yn parhau mewn digwyddiad arbennig yn Llundain.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad ‘Calan Oen’ ar Awst 1 yn 2016, mae cychwyn ymgyrch Cig Oen Cymru PGI yn symud i Lundain gyda chinio arbennig. Dathlwyd y digwyddiad y llynedd trwy goginio oen yr yr awyr agored ym the mynyddoedd Eryri, ond eleni cynhelir digwyddiad Calan Oen yn un o’r bwytai newydd mwyaf cyffrous yn Llundain, wedi ei goginio gan Tom Simmons, cogydd ifanc talentog tu hwnt sy’n hannu o Sir Benfro.

Mae’r achlysur Calan Oen yn chwarae ar hen draddodiad Calan Awst fel hen ddathliad diolchgarwch. Yn Saesneg gelwir y diwrnod yn ‘Llamb’s Day’ oherwydd traddodiad tebyg ‘Lammas Day’ gan chwarae ar y brandio ‘Ll’ chwareus sy’n nodweddu ymgyrchoedd diweddar Cig Oen Cymru PGI yn Lloegr.

Pwrpas y diwyddiad yw i dynnu sylw newyddiaduron bwyd Llundain at flas gwych Cig Oen Cymru, y technegau ffarmio oesol y tu ôl i’w gynhyrchu, a’i hyblygrwydd wrth goginio. Bydd y cogydd Tom Simmons yn paratoi’r fwydlen yn ei fwyty newydd yn Tower Bridge.

Ebonia Tom Simmons:

“Rwy’ wrth fy modd gweithio gyda chynhwysion a blasau Cymreig. Bum i’n lwcus i gael fy magu gyda chynnyrch gwych o’m cwmpas, ac mae’n rhywbeth yr wyf am ei arddangos ym mwyty Tom Simmons Tower Bridge. Tyfais i fyny yn bwyta prydau Cymreig traddodiadol ac mae hynny wedi cael dylanwad mawr arna i. Cig Oen Cymru yw’r gorau yn y byd yn fy marn i ac rwy’n arbennig o falch i gael defnyddio cynnyrch o fro fy mebyd.

Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Marchnata yn Hybu Cig Cymru (HCC):

“Mae digon o Gig Oen Cymru ar y silffoedd ym mis Awst ac mae’n bwysig i ni fod pobl yn cael y cyfle i flasu cynnyrch gwych Cymru yn ei dymor. Mae’r digwyddiad yma yn gyfle euraidd i arddangos safon a blas Cig Oen Cymru PGI i Lundain ac mae’n gyffrous iawn cael gweithio gyda chogydd gwych fel Tom Simmons.”