Skip to content

FoodEx -  Mae’n dawel. Mae’n drefnus. Mae wedi’i gydlynu

FoodEx  -  Mae’n dawel. Mae’n drefnus. Mae wedi’i gydlynu

gan Medi Jones-Jackson

Ym 1964 roedd fy nhad, a oedd ar y pryd yn y Llynges Fasnachol, yn gwasanaethu yn Tokyo. Union 60 mlynedd yn ddiweddarach rwy'n cael fy hun ar daith 15 awr mewn awyren yn hedfan mwy na hanner ffordd ar draws y byd –  er mwyn cyrraedd Tokyo!  Ni allaf beidio â meddwl pa mor wahanol fydd y ddinas i'r un a welodd fy nhad dros hanner canrif n ôl.

Mae'r gwesty yn edrych dros Bont yr Enfys ac Afon Sumida wrth iddi gyrraedd Bae Tokyo yn llawn cychod wedi’u llwytho. Diolch byth ein bod ni a’n cargo (Cig Oen Cymru PGI) hefyd wedi cyrraedd pen ein taith yn ddiogel.

Roedd tîm HCC yn cynnwys Laura Pickup, Gareth Evans a minnau – gyda Patrick Orchard o Kepak yn rhan o’r grŵp hefyd.  Bwriad ein hymweliad oedd ymuno â Phafiliwn Rhyngwladol Cymru yn FoodEx Japan – y sioe fasnach fwyaf yn Asia – i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI. Dros bedwar diwrnod croesawodd y sioe dros 73,789 o ymwelwyr i’r neuaddau gan ddod â 2,500 o gwmnïau bwyd a diod blaenllaw ynghyd, o fwy na 60 o wledydd a rhanbarthau.

Ond cyn i’r sioe ddechrau, y dasg gyntaf oedd ceisio trechu’r jetlag – a gwnaed hynny, mi gredaf, wrth i ni ddringo Tŵr Tokyo – 333m o uchder a’r tŵr annibynnol talaf yn y byd. Fe wnaethom amseru ein hymweliad yn dda - trwy ddamwain yn bennaf - a olygodd ein bod wedi gallu mwynhau machlud haul Tokyo a gweld copa eira Mynydd Fuji yn y pellter pell.  Mae’n olygfa anhygoel.

Ymlaen i’r sioe ...

Roedd chwe chwmni yn arddangos ar stondin Rhyngwladol Cymru, sef Calon Wen, Mydflower, Castle Dairies, Tŷ Nant, Bragdy Morgannwg a ninnau (Cig Oen Cymru PGI). Mae gan Gymru stori mor gyfoethog, amrywiol a thrawiadol i’w hadrodd o ran Bwyd a Diod. I genedl fach, rydyn ni'n ddylanwadol iawn ac rydw i'n ymfalchïo nid yn unig mod i’n cynrychioli Cig Oen Cymru ond hefyd am fy mod ar stondinau yn cynrychioli Tîm Cymru.

Yn y fy swydd yn HCC fel Swyddog Gweithredol Digwyddiadau rwy'n gofalu am yr holl logisteg o drefnu a mynychu sioeau masnach a gwneud yn siŵr fod popeth yn mynd yn iawn. O archebu stondinau i deithio, o ddylunio i lawenydd pur Asesiadau Risg – rwyf bob amser yn cellwair fy mod yn chwysu dros y pethau bach fel nad oes raid i’m cydweithwyr wneud hynny.  Mae derbyn y cig ar ddiwrnod y gosod bob amser yn ryddhad, rhaid cyfaddef.  Rydym bob amser yn gwneud yn siŵr bod ein harddangosfa yn dangos y cig oen ar ei orau.

Mae sioeau masnach ac arddangosfeydd fel FoodEx Japan yn ddigwyddiadau gwahanol - maen nhw'n cymryd llawer iawn o drefnu ond mae'r enillion yn enfawr. Mae arddangosfeydd yn gyfle gwych i gysylltu â chwmnïau eraill, cwrdd â phrynwyr newydd a chryfhau cysylltiadau presennol, cymysgu â'r diwydiant - sydd i gyd yn elfennau pwysig o gynorthwyo twf busnes. Yr hyn sydd hefyd yn bwysig i ni yn HCC yw’r cyfle a’r gofod i hyrwyddo brand Cig Oen Cymru PGI.

Mae’r sioe ei hun yn drawiadol – mae’r diwrnod gosod yn wahanol i bopeth arall  yr wyf wedi’i brofi yn yr holl sioeau masnach y bûm  yn gweithio arnyn nhw i HCC neu i eraill dros gyfnod o 20 mlynedd mewn marchnata a rheoli digwyddiadau. Mae dyddiau gosod yn ferw gwyllt, yn swnllyd, yn llawn anhrefn a thwrw di-ben-draw.  Lle bynnag rydych chi yn y byd, mae dyddiau gosod yn flêr ac rydych chi'n meddwl na fydd y sioe byth yn barod erbyn yr agoriad  Ond nid dyna sut mae hi yn Tokyo. Mae'n dawel, yn fyddarol o dawel. Mae’n drefnus. Mae popeth wedi'i gydlynu. Daliwch sylw,  sioeau masnach Ewrop!

Dros bedwar diwrnod rydym yn cwrdd â busnesau sy’n amrywio o wasanaethau bwyd i dai bwyta – mae’n sioe brysur ac mae’n amlwg bod yma archwaeth am Gig Oen Cymru.

Gweithgareddau eraill.

Nos Fercher gwahoddwyd tîm HCC i dderbyniad y Pedair Cenedl yn Llysgenhadaeth y DG. Rydyn ni’n mynd heibio i adeilad trawiadol a mawreddog National Diet ar ein ffordd, yn ogystal â'r Palas Imperialaidd, cyn cyrraedd yr adeilad Sioraidd hyfryd sy'n gartref i lywodraeth y DG yn Tokyo.

Mae derbyniad y Pedair Cenedl yn dod â’r holl gynrychiolwyr bwyd a diod o wledydd y DG at ei gilydd i ddathlu’r amrywiaeth o gynnyrch sydd gennym i’w gynnig – ond, yn hollbwysig, mae’n gyfle gwych i rwydweithio â busnesau o bob rhan o Siapan

Yng nghanol yr ystafell mae bwrdd enfawr gyda map o'r DG wedi'i orchuddio â'r holl gynhyrchion gwahanol a'u tarddiad.  Mae Cymru i’w gweld yn amlwg ymhlith y pedair gwlad.

Wrth reswm, mae cig oen Cymru ar y fwydlen – ac o fewn ychydig ddyddiau i’r tîm lanio nôl yn y DG rydyn ni’n clywed gan y Llysgenhadaeth fod cadwyn o dai bwyta a oedd yn y digwyddiad wedi cysylltu i ofyn am fwy o wybodaeth am y cig oen a sut mae  cael cyflenwad i Siapan. Adegau fel hyn sy’n gwneud ichi sylweddoli pa mor bwysig yw hybu Cig Oen Cymru trwy bresenoldeb personol – ac wrth gwrs drwy gael pobl i flasu ein cynnyrch rhagorol.  

Ar ein noson olaf cawsom y pleser o fynd allan am swper yng nghanol Tokyo gyda chynrychiolydd tramor Llywodraeth Cymru, Yoko Kobori. Ers dros ddegawd, mae Yoko wedi gweithio’n ddiflino yn cynrychioli buddiannau busnes a masnach Cymru yn Siapan.  Mae hi wedi dewis tŷ bwyta yng nghanol prysurdeb Shibuya – mae’r goleuadau  neon a thrydan yn anhygoel ac rydych chi’n teimlo eich bod yng nghanol ffilm Sophie Coppola ‘Lost in Translation’.  Yoko sy'n gyfrifol am archebu'r bwyd ac mae Takoyaki yn prysur ddod yn ffefryn mawr i mi. Tybed a oes unrhyw le yn Aberystwyth yn eu gwerthu?

Mae ein hamser yn Tokyo yn dirwyn i ben ac yn rhy fuan bydd y tacsi yn cyrraedd i fynd â ni yn ôl i faes awyr Haneda a thaith awyren 15-awr adref. Yn ogystal â sioe gynhyrchiol rydyn ni hefyd yn cymryd atgofion hapus yn ôl am Tokyo ei hun – mynd ar draws croesfan enwog Shibuya, gweld y ceirios ar fin blodeuo (mae FoodEx yn digwydd pythefnos cyn y blodeuo llawn ☹). Yn bwysicach na’r atgofion a’r profiadau sydd gennym, mae’r cysylltiadau a wnaethom i sefydlu Cig Oen Cymru fwyfwy yn y farchnad yn Siapan.

Efallai fod y ddinas wedi newid yn sylweddol ers i Nhad fod yno yn 1964 – ond mae pobl Siapan yn dal i fod mor gwrtais a chymwynasgar ag erioed. Roedd Nhad yma cyn dyfodiad caraoce ond rydw i hyd yn oed yn amau a allai ganu un o ganeuon Lady Gaga hanner cystal â fi.