Skip to content

Galw ar drigolion Sweden i ganolbwyntio ar goginio!

Galw ar drigolion Sweden i ganolbwyntio ar goginio!

Mae’r mwyafrif yn mwynhau diod oer gyda barbeciw ar ddiwrnod braf o haf, ond mae pobl Sweden yn adnabyddus am lymeitian tra’n coginio cig ar y gril! Mae hynny’n peryglu eu gallu i ganolbwyntio ar goginio, ac yn waeth byth, yn golygu y gallai cig premiwm fel Cig Oen Cymru cael ei ddifetha yn y broses.

Fel rhan o’i hymgyrch farchnata arbrofol ar gyfer Cig Oen Cymru yn Sweden eleni, mae’r asiantaeth cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) wedi datblygu barbeciw ac anadliedydd yn un, sef y “Promillegrillen”. Dyma’r unig gril o’i fath yn y byd, gyda mesurydd alcohol sydd wedi’i gynllunio i sicrhau bod Cig Oen Cymru’n cael gofal a pharch haeddiannol. 

I gychwyn y Promillegrillen, mae’n rhaid i’r defnyddiwr basio prawf sobrwydd drwy chwythu i mewn i’r anadliedydd. Dim ond os bydd lefel isel o alcohol yn cael ei fesur y bydd y peiriant yn tanio. Bob yn hyn a hyn, bydd y barbeciw yn troi i ffwrdd a bydd angen i’r defnyddiwr chwythu i mewn i’r mesurydd eto i brofi sobrwydd i ddangos eu bod yn canolbwyntio ar y broses goginio, gan arwain at yr amodau grilio gorau ar gyfer Cig Oen Cymru.

Wyneb y fideo hyrwyddo sydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer yr ymgyrch yw’r actor o Gymru, Julian Lewis Jones sydd wedi serennu mewn dramâu yn y DU ac yn ffilm Clint Eastwood, ‘Invictus’. Mae’r fideo, y gellir ei wylio yma - www.youtube.com/watch?v=2wPCFsF1l7A- wedi’i ddefnyddio mewn hysbysebion digidol ac i’w weld ar wefan Swedeg Cig Oen Cymru: www.welshlamb.eu. Mae o wedi’i wylio dros 415,00 o weithiau eisoes.

Meddai Rheolwr Datblygu’r Farchnad HCC, Rhys Llywelyn: “Bwriad yr ymgyrch chwareus yma oedd apelio at bobl Sweden gyda hiwmor ac adloniant ysgafn. Mae’r ffaith bod y fideo wedi’i wylio filoedd o weithiau yn barod, a’r ymateb i’r ymgyrch yn Sweden, yn awgrymu’n gryf ein bod ar y trywydd iawn ar gyfer codi ymwybyddiaeth o Gig Oen Cymru PGI fel cynnyrch amlbwrpas ffantastig sy’n berffaith ar gyfer ei grilio ar y barbeciw!

“Roedden ni’n falch o gydweithio gyda Julian ac edrychwn ymlaen at ei groesawu i’n stondin yn y Sioe Frenhinol ble bydd yn trafod y ffilm ac yn rhannu rhai o’i hoff fwydydd barbeciw ei hun!”

Dangosodd arolwg ymhlith pobl Sweden bod arferion yfed alcohol yn ystod yr haf yn dangos eu bod nhw’n meddwl bod barbeciw ac alcohol yn cyd-fynd. Yn ôl y canlyniadau, mae 30% o bobl yn yfed mwy o alcohol pan maen nhw’n grilio o’i gymharu â dulliau coginio eraill, ac mae 30% yn yfed alcohol yn amlach yn ystod y tymor grilio. Mae 36% o ddynion wastad, neu bron bob amser, yn yfed alcohol tra’n grilio, lle bo 22% o fenywod yn gwneud hynny hefyd.

Ar nodyn mwy difrifol, mae’r ymgyrch hefyd yn tanlinellu’r ffaith bod grilio yn achosi cyfran uchel o danau ac anafiadau a gaiff eu cofnodi gan awdurdod diogelu rhag tân Sweden bob blwyddyn. Mae’r perygl o rywbeth yn mynd o’i le yn uwch pan fydd alcohol wedi’i yfed.

Ychwanegodd Rhys Llywelyn: “Mae dosbarthiad Cig Oen Cymru yn Sweden wedi’i gyfyngu i rai siopau yn unig. Fel gwlad sydd â chynnyrch domestig gros uchel a phoblogaeth sy’n bwyta llawer o gig coch, mae potensial i’r farchnad fod yn broffidiol i broseswyr cig coch Cymru. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn cynyddu diddordeb a galw am y cynnyrch dros y misoedd nesaf.”