Skip to content

Gostyngiad mewn pwysau carcasau ŵyn yn 2016

Gostyngiad mewn pwysau carcasau ŵyn yn 2016

Mae’r data diweddaraf a ryddhawyd gan Defra yr wythnos hon yn dangos sut yr anfonwyd ŵyn gyda phwysau ysgafnach i’r farchnad yn 2016.

Mae rhifyn Ionawr o Fwletin y Farchnad HCC yn rhoi trosolwg o’r farchnad ddefaid yn 2016 gyda’r ffigyrau yn dangos bod pwysau carcasau ŵyn yn ysgafnach nag yn y flwyddyn flaenorol. Yn ystod cyfnod o wyth mis o Fai i fis Rhagfyr, pwysau cyfartalog carcasau yn y DU oedd 19kg, bron hanner kg yn ysgafnach na 2015.

Mae hyn yn cefnogi adroddiadau am gynhyrchwyr yn cael trafferth i orffen eu hŵyn yn 2016 oherwydd amodau tyfu anffafriol ar ddiwedd y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf.

Roedd y tywydd yn un ffactor a gafodd effaith arwyddocaol ar y sector ŵyn. Digwyddiad masnachu mwyaf y flwyddyn oedd penderfyniad y DU i adael yr UE ym mis Mehefin. Cafodd y refferendwm effaith gadarnhaol ar unwaith ar brisiau defaid ac ŵyn wrth i’r Bunt wanhau yn erbyn yr Ewro, gwelwyd hwb mewn prisiau ŵyn pwysau byw o 11c/kg mewn wythnos, a daeth ar amser pan, yn hanesyddol, y mae disgwyl i’r farchnad ddirywio.

Teimlwyd effaith cwymp y Bunt am weddill y flwyddyn wrth i enillion ariannol ar gyfer allforion gynyddu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Parhaodd rhai marchnadoedd allforio, yn enwedig Ffrainc, i fod yn farchnadoedd anodd i allforwyr y DU, oherwydd patrymau bwyta a pholisïau prynu anwadal y manwerthwyr.

Meddai Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant HCC, John Richards: “Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n anodd gweld y Bunt yn cryfhau rhyw lawer, yn enwedig wrth i’r ansicrwydd barhau dros pryd fydd Llywodraeth y DU yn dechrau Erthygl 50 a beth fydd canlyniad cytundebau masnachu yn y cyfnod ôl-Frexit.” 

Ar lefel cynhyrchu, mae data lladd Defra yn dangos bod ychydig dros 9 miliwn o ŵyn wedi mynd drwy ladd-dai'r DU rhwng Mai a Rhagfyr 2016, ychydig yn llai na’r un cyfnod yn 2015.

Ychwanegodd John Richards: “Mae data arolwg Mehefin yn awgrymu bod mwy o ŵyn y llynedd. Felly, rydym yn disgwyl gweld cyflenwad digonol o ŵyn ar y farchnad dros y misoedd nesaf. Er hynny, gan fod dros 6 y cant yn fwy o famogiaid difa wedi bod drwy’r lladd-dai nag yn 2015, mae’n bosibl y bydd rhai o’r ŵyn ychwanegol yma’n cael eu cadw ar gyfer bridio yn y dyfodol.”

Mae Bwletin y Farchnad ar wefan HCC: http://welsh.hccmpw.org.uk/publications/corporate/market_bulletins1/2017/