Skip to content

Gwerthiant Cig Oen ar i Fyny yn ôl Data Newydd

Gwerthiant Cig Oen ar i Fyny yn ôl Data Newydd

Mae data manwerthu newydd a ryddhawyd gan Kantar Worldpanel wedi datgelu bod 2020 yn troi’n flwyddyn arbennig i gig oen.

Mae’r ffigurau diweddaraf, ar gyfer y cyfnod o 12 wythnos trwy ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref hyd at 4 Hydref, yn dangos bod pobl Prydain wedi gwario 15.5% yn fwy ar gig oen nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd, ac wedi bwyta 11% yn fwy yn ôl cyfaint.

Gan gymryd y flwyddyn yn ei chyfanrwydd, mae gwerthiant cig oen wedi gwella’n gryf ar ôl Pasg siomedig. Mae’r Pasg yn draddodiadol yn gyfnod o alw uchel ond cafodd ei effeithio’n wael eleni gan gyfyngiadau cloi ar gynulliadau teuluol.

Ers hynny, mae defnyddwyr wedi edrych ar opsiynau newydd gan eu bod wedi cael mwy o amser i goginio gartref, ac mae cig oen wedi bod yn ddewis poblogaidd. Mae cyfanswm y gwariant ar gig oen ym Mhrydain bellach i fyny 7.9% ar y flwyddyn hyd yn hyn, cyfnod pan mae HCC a manwerthwyr wedi buddsoddi mewn mwy o farchnata mewn siopau a thrwy gyfryngau cymdeithasol.

Mae’r ffigurau’n awgrymu mai’r prif reswm dros y cynnydd yw nid yn unig bod defnyddwyr presennol yn prynu mwy, ond bod cwsmeriaid newydd yn rhoi cynnig ar gig oen. Mae nifer y bobl sy'n prynu cig oen i fyny 9%, gyda bron i draean o aelwydydd yn ei brynu o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 12 wythnos.

Er bod cig oen yn dal i fod yn fwyaf poblogaidd ymhlith defnyddwyr hŷn, eleni mae nifer o gwsmeriaid iau wedi rhoi cynnig ar gig oen. Gwelwyd cynnydd cryf o flwyddyn i flwyddyn o ran faint o gig oen a brynwyd gan deuluoedd â phlant (+17.2%) a phobl o dan 45 oed (+13.4%).

Dywedodd Dadansoddwr Data HCC, Glesni Phillips, “Ar ôl ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd yn gynharach yn y flwyddyn oherwydd aflonyddwch y fasnach gwasanaeth bwyd a lletygarwch, mae poblogrwydd cig oen wedi bod yn nodwedd nodedig o farchnad adwerthu Prydain.

“Mae ein strategaeth farchnata wedi canolbwyntio ar ymateb i dueddiadau defnyddwyr yn y flwyddyn anarferol hon – gan weithio gyda chogyddion enwog i annog pobl i roi cynnig ar syniadau newydd gartref.

“Rydyn ni'n falch bod y data'n dangos niferoedd cynyddol o deuluoedd a defnyddwyr iau sy'n rhoi cynnig ar gig oen. Byddwn yn parhau i dargedu marchnata at y grŵp hwn yn y cyfnod cyn y Nadolig.”

29/10/2020