Skip to content

HCC i gynnal trafodaethau rhyngwladol am y fasnach ŵyn

HCC i gynnal trafodaethau rhyngwladol am y fasnach ŵyn

Yr wythnos hon, bydd y corff ardoll cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn croesawu cynrychiolwyr o Beef and Lamb New Zealand Ltd. (BLNZ) am gyfres o gyfarfodydd rhwng dau o wledydd pwysica’r byd o ran cynhyrchu cig oen.

Ar ddydd Iau, 2 Chwefror, bydd un o gyfarwyddwyr BLNZ, Andrew Morrison, a’u Rheolwr Ewropeaidd Ben O’Brien yn cynrychioli diwydiant ŵyn Seland Newydd mewn trafodaethau gyda chynrychiolwyr o Gymru ym mhencadlys HCC yn Aberystwyth.

Yn ogystal â thrafod gyda swyddogion HCC a’r Cadeirydd Dai Davies, bydd hefyd cyfle i gynrychiolwyr BLNZ i gwrdd ag arweinwyr mudiadau ffermwyr.

Mae’r trafodaethau yn digwydd ar gefndir o ansicrwydd am ddyfodol y fasnach ryngwladol yn dilyn Brexit. O dan y cytundebau presennol, gall Seland Newydd allforio hyd at 228,000 tunnell o gig oen a chig dafad i’r Undeb Ewropeaidd heb dalu tollau. Ar hyn o bryd daw tua hanner o allforion Ewropeaidd cig oen Seland Newydd i Brydain.

“Ry’n ni’n falch o groesawu Andrew Morrison a Ben O’Brien i Gymru, ac i roi cyfle i fudiadau amaethwyr i godi unrhyw fater o bryder i’w haelodau,” meddai Cadeirydd HCC Dai Davies.

“Mae hon yn gyfnod ansicr i’n diwydiant,” ychwanegodd. “Y mater amlwg lle bydd y ddwy wlad yn chwilio am sicrwydd dros y misoedd nesaf yw faint o’r cwota Ewropeaidd presennol o gig oen Seland Newydd fydd yn dod i’r Deyrnas Gyfunol ar ôl Brexit, a faint fydd yn mynd i weddill Ewrop. Rhaid hefyd sicrhau fod gan ddiwydiant amaethyddol Cymru lais cryf o fewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol rhwng Llywodraethau Prydan a Seland Newydd.

“Wrth gwrs, mae’r brandiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Oen Seland Newydd mewn cystadleuaeth ym Mhrydain ac mewn sawl rhan arall o’r byd,” esboniodd Mr. Davies. “Ond, mae hefyd meysydd lle y gall Gymru a Seland Newydd gydweithio, yn enwedig mewn marchnadoedd newydd oddi cartref. Gall y ffaith fod uchafbwynt ein tymhorau cynhyrchu yn wrthgyferbyniol helpu adeiladu galw am gig oen ar hyd y flwyddyn mewn marchnadoedd sy’n datblygu.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod adeiladol gyda’r cynhrychiolwyr o BLNZ, ac i adeiladu dealltwriaeth wrth i’n diwydiant geisio dygymod â’r cyfnod ansicr yma,” meddai Mr. Davies.