Skip to content

HCC yn dod a ffermwyr ac arbenigwyr ynghyd er mwyn hybu iechyd diadelloedd

HCC yn dod a ffermwyr ac arbenigwyr ynghyd er mwyn hybu iechyd diadelloedd

Teithiodd ffermwyr a milfeddygon o orllewin Cymru i Lanymddyfri yn ddiweddar i glywed gan arbenigwyr am yr ymchwil a’r cyngor diweddaraf ar iechyd anifeiliaid, er mwyn cael y perfformiad gorau gan eu defaid.

Roedd y cyfarfod yn rhan o gylchdaith iechyd stoc Sefydliad Moredun a gafodd ei noddi gan Hybu Cig Cymru (HCC); fe’i gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri, a bu cyfraniadau gan nifer o siaradwyr nodedig.

Cyflwynodd Beth Wells a Lee Innes o Sefydliad Moredun, a’r arbenigwraig ar iechyd anifeiliaid, Kate Phillips, sesiynau ar reoli ac atal rhai o’r prif broblemau iechyd a wynebir gan ddefaid dros y gaeaf.

Rhoddodd Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant HCC, James Ruggeri, anerchiad hefyd. “Cawsom flas ar glywed gan filfeddygon ac ymchwilwyr nodedig am y dulliau gorau o atal clefydau ac anhwylderau, a’r ffyrdd gorau i gynnal safon diadelloedd dros y gaeaf,” meddai James. “Yn ogystal â gwella iechyd anifeiliaid, gall cymryd camau o flaen llaw hefyd wella proffidioldeb y busnes i ffermwyr.”

“Roedd pwysigrwydd maeth yn neges glir iawn,” ychwanegodd, “ac fe ellir dod o hyd i nifer o gynghorion ymarferion ym mhamffled HCC, ‘Bwydo Mamog i gael Cynnyrch Oes’, sydd ar ein gwefan. Mae gan HCC hanes hir o gydweithio llwyddiannus gyda Moredun ar ddigwyddiadau tebyg i hwn, er mwyn cyflwyno’r cyngor gorau i ffermwyr. Rwy’n edrych ymlaen at hyn yn parhau yn y dyfodol.”