Skip to content

HCC yn hyrwyddo technoleg ddiguro i olrhain bwyd

HCC yn hyrwyddo technoleg ddiguro i olrhain bwyd

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi gwella hygrededd brandiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI wrth gydweithio â swyddogion gorfodaeth yr awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Cafodd cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru eu diweddaru ynghylch sut mae'r dynodiad PGI yn gweithio ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, a'r hyn mae'n ei olygu i swyddogion gorfodaeth. Yn ogystal, cawsant y manylion diweddaraf am y dechnoleg arloesol a ddefnyddir gan HCC i olrhain elfennau hybrin.  Cafodd ei darparu gan Oritain i roi haenen ychwanegol o olrheinedd ledled y gadwyn gyflenwi, ac chaiff ei hystyried ledled y byd fel y system orau o'i bath.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Cig Coch HCC, Kirsten Hughes, fod hygrededd  yn hollbwysig i frandiau cig coch Cymru ac i'r gadwyn gyflenwi cig coch yn gyffredinol. 'Roeddem  yn falch  fod swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol wedi cymryd rhan yn ein sesiwn, ac rydym yn croesawu eu cefnogaeth i'r ymdrechion i wella hygrededd Cig Oen Cymru a Cig Eidion Cymru.

‘Mae ein partneriaeth ag Oritain yn golygu y gall HCC ymchwilio i unrhyw achosion o dwyll ynghylch bwyd yn gyflym. Rydym hefyd yn falch o allu parhau i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol i wneud yn siŵr fod hygrededd brandiau Cig Oen Cymru a Cig Eidion Cymru yn cael ei gynnal ac i gefnogi'r awdurdodau gydag unrhyw waith perthnasol.

‘Pryd bynnag y bydd cwsmeriaid yn gweld logos Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI,  gallan nhw fod yn dawel eu meddwl  taw dyna'n union y byddan nhw'n ei gael.’

Mae rhagor o wybodaeth am ddynodiad PGI ar gael yma: https://meatpromotion.wales/en/about/what-we-do/pgi-certification

07/06/2022