Skip to content

HCC yn rhannu canlyniadau ymchwil mewn cynhadledd bwysig

HCC yn rhannu canlyniadau ymchwil mewn cynhadledd bwysig

Cafodd effaith newid yn yr hinsawdd a dod ag amaethyddiaeth da byw, iechyd a bioamrywiaeth at ei gilydd i ddarparu atebion, eu trafod mewn cynhadledd bwysig i’r diwydiant ym Melffast,  sef ‘Y rhan sydd gan Dda Byw i’w Chwarae yn ein Hecosystemau a’n Heconomi.’

Roedd Cynhadledd BSAS (Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain) yn cynnwys cyfraniadau gan Dr Eleri Thomas a Dr Heather McCalman o Hybu Cig Cymru (HCC),  a oedd yn cynrychioli sector cig coch Cymru yn 80fed flwyddyn cynhadledd ddylanwadol y gymdeithas.

Noddodd HCC y sesiwn ar ‘Systemau Cnofilod Bach Cynaliadwy’ a oedd yn amlygu’r cysylltiadau rhwng systemau cynhyrchu ac ansawdd cig oen. Cafwyd gwybodaeth werthfawr gan y sesiwn ar sut i reoli systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil yn well a monitro cynnydd tuag at well cynaliadwyedd.

Cyflwynodd Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Polisi a Datblygu Prosiectau’r Dyfodol yn HCC, y canlyniadau cyffredinol terfynol o Brosiect Ansawdd Cig Oen Cymru. Cynhaliwyd y prosiect eang hwn yn y DG dros gyfnod o bum mlynedd ac roedd yn rhan o Raglen Datblygu Cig Coch HCC. Daeth i’r casgliad bod Cig Oen Cymru yn iach, yn faethlon ac o ansawdd bwyta da, a bod gan ŵyn sy’n cael eu pesgi ar borfa a/neu borfwyd lefelau uwch o omega-3 ac asidau amino hanfodol.

Dywedodd Dr Thomas: “Mae Cynhadledd BSAS yn ddigwyddiad pwysig, llawn gwybodaeth yn y calendr academaidd a rhoddodd gyfle gwerthfawr i rannu canlyniadau allweddol o Brosiect Ansawdd Cig Cig Oen Cymru gyda chynrychiolwyr y diwydiant ac academyddion o bob rhan o’r DG.

“Daeth y cynadleddwyr o bob cwr o’r byd ac roedden nhw wrth eu bodd yn clywed sut roedd diet pesgi ŵyn, rhywedd ŵyn, a thoriad cyhyr yn effeithio ar ansawdd bwyta a maeth y cig, a sut mae’r canlyniadau hyn yn darparu tystiolaeth wych wrth i ni geisio sicrhau y bydd Cig Oen Cymru PGI yn dal i fod yn boblogaidd yn y dyfodol.”

Pwysleisiodd Dr McCalman sut y gall hwsmonaeth anifeiliaid a rheolaeth amgylcheddol gydweithio ar gyfer cynhyrchu cig coch a gofalu am natur.

Yn dystiolaeth i hyn, amlinellodd sut y cafodd llinellau sylfaenol ar gyfer nodweddion amgylcheddol systemau defaid mynydd ac ucheldir Cymru eu hasesu, a chyflwynodd ganlyniadau Cynllun Hyrddod Mynydd diweddar HCC.

Dywedodd: “Roedd yn wych ymgysylltu â’r cynrychiolwyr a thrafod sut i ddatblygu ffyn mesur i ddangos sut gall gwelliant genetig cynyddol yn nodweddion mamol diadelloedd fynd law yn llaw ag olion traed carbon isel a’r buddion bioamrywiaeth i’r dirwedd ar draws bryniau ac ucheldiroedd Cymru.”

Hefyd, cafwyd cyflwyniad gan Dr McCalman yn y sesiwn ar ‘Newid Ymddygiad Ffermwyr a Milfeddygon’, gan nodi gwerth ymyrraeth ryngweithiol i gael canlyniadau sylweddol o ran gwella iechyd a lles diadelloedd drwy ddefnyddio technegau rheoli syml ond effeithiol.   “Roedd yn wych gallu rhannu enghraifft lwyddiannus o’r sector cig coch yng Nghymru a bod yn rhan annatod o ymgyrch ehangach ‘Traed Iach: Defaid Hapus’ ledled y DG.

“Roedd thema’r gynhadledd yn awgrymu bod gan dda byw ran bwysig i’w chwarae yn economi llawer o wledydd, ac mae Cymru yn bendant yn un ohonyn nhw. Ategodd y prif siaradwyr y cysyniad bod pori gwartheg yn rhan o’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r diwydiant i rannu’r neges hon a gwersi eraill a gafwyd o’r digwyddiad am y rhan sydd gan dda byw i’w chwarae a’u cyfraniad i’r economi.”

23/04/2024