Skip to content

Llythyr agored gan AHDB, QMS a HCC mewn ymateb i ymgyrch Bathodyn Gwyrdd CBBC Blue Peter

Llythyr agored gan AHDB, QMS a HCC mewn ymateb i ymgyrch Bathodyn Gwyrdd CBBC Blue Peter

Mae’r tri bwrdd ardoll ym Mhrydain wedi rhyddhau llythyr agored ar y cyd mewn ymateb i ymgyrch Bathodyn Gwyrdd Blue Peter gan Children’s BBC 

Mae sioe deledu eiconig plant y BBC, Blue Peter, wedi gofyn i wylwyr ddod yn rhan o ‘fyddin werdd’ i fynd i’r afael ag allyriadau carbon a newid yn yr hinsawdd. Ymhlith yr argymhellion i ennill Bathodyn Gwyrdd mae’n annog plant i gymryd y ‘Supersize Plants Pledge’ a disodli prydau cig coch gyda phrydau “cyfeillgar i’r hinsawdd” yn seiliedig ar blanhigion.

Mae dyfynnu ymadroddion gan gynnwys “mae lleihau faint o gig rydych chi'n ei fwyta, yn enwedig cig eidion a chig oen, hyd yn oed yn well i'r hinsawdd na lleihau faint rydych chi'n teithio mewn car” yn anghywir, yn gamarweiniol ac yn seiliedig ar ddata sydd wedi ei hen ddiystyru. Mae'r neges anghytbwys hwn yn tanseilio cig coch a gynhyrchir yn y DU i gwsmeriaid y dyfodol.

Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn dysgu ac yn deall o ble mae eu bwyd yn dod a'i effaith ar y blaned, ac mae'r ymgyrch Bathodyn Gwyrdd yn gyfle i rannu rhinweddau gwych diwydiant cig coch Prydain, sydd ymhlith y rhai mwyaf cynaliadwy yn y byd ac yn rhoi bywoliaeth i filoedd o bobl.

Fel darlledwr cyhoeddus, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gyfleu gwybodaeth ddi-duedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gyfathrebu gyda phlant.

Mae Blue Peter hefyd yn hyrwyddo’r Cyfrifiannell Carbon, offeryn gor-syml sy’n dyfynnu data byd-eang nad yw’n cynrychioli diwydiant cig coch y DU.

Mae rhai o'r mentrau gwych sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn ffermydd ledled y wlad yn cynnwys cynnal archwiliadau carbon rheolaidd i reoli a gwrthbwyso allyriadau; osgoi aredig, draenio a gor-bori; creu coridorau bywyd gwyllt ar hyd ymylon dŵr, ymylon caeau a phentiroedd, gweithredu i reoli pridd a chyflawni sero net ar draws y diwydiant yng Nghymru a Lloegr erbyn 2040 ac erbyn 2045 yn yr Alban.

Cynhyrchir y cyfaint uchaf o CO2 gan y diwydiannau tanwydd ffosil, gyda ffermio da byw yn cyfrannu dim ond 6% o allyriadau CO2 y DU. O ystyried yr ystadegyn hwn, ni fyddai torri eich defnydd o gig unigol mewn gwirionedd yn lleihau allyriadau CO2 cyffredinol y DU bron mor sylweddol â newidiadau strwythurol yn y sectorau ynni a thrafnidiaeth megis annog teuluoedd i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ogystal, dylai'r mwynau a'r fitaminau a geir mewn cig coch fod yn rhan bwysig o ddeiet person ifanc sy'n tyfu. Mae haearn o ffynonellau cig yn cael ei amsugno'n haws gan y corff dynol o'i gymharu â haearn a geir mewn ffynonellau eraill. Gall diffyg haearn gynyddu'r risg o anemia. Gall diffyg haearn difrifol hefyd gynyddu'r risg o ddatblygu cymhlethdodau i'r galon a'r ysgyfaint.

Fel y mae, mae 42% o ferched yn eu harddegau yn methu â chyrraedd y lefel isaf o gymeriant haearn ac nid yw 22% o ferched yn eu harddegau yn cael digon o sinc, sy'n hanfodol i gefnogi system imiwnedd iach.

Byddem yn croesawu'r cyfle i rannu'r negeseuon cadarnhaol gan y diwydiant cig coch.

Mae rhannu gwybodaeth â phobl ifanc am y technegau a'r prosesau sydd ar waith i sicrhau nad yw ffermio yn y DU ar draul yr amgylchedd ehangach hefyd yn hanfodol i'w helpu i ffurfio eu barn a'u harferion bwyta eu hunain. Lle da i ddechrau yw Farming Foodsteps, adnodd ar-lein a ddatblygwyd gan weithwyr proffesiynol yn benodol ar gyfer plant oed ysgol sy'n archwilio'r siwrnai cig coch ac sy'n cynnwys cynaliadwyedd a negeseuon iechyd.

Rhaid rhannu'r straeon hyn, a gofynnwn i'r BBC a Blue Peter ailystyried eu negeseuon unochrog a rhoi cyfle i benaethiaid cyrff diwydiant cig coch y DU gwrdd â phennaeth rhaglenni plant i daflu goleuni ar y negeseuon positif.

Yn gywir,

Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru (HCC)

Alan Clarke, Prif Weithredwr Quality Meat Scotland (QMS)

Christine Watts, Prif Swyddog Cyfathrebu yr Agriculture and Horticulture Development Board (AHDB)

12/04/2021