Skip to content

Mewnbwn y Diwydiant yn Hanfodol i Ymestyn Cyfnod Cynnyrch ar Silffoedd

Mewnbwn y Diwydiant yn Hanfodol i Ymestyn Cyfnod Cynnyrch ar Silffoedd

Mae HCC wedi lansio arolwg newydd ar y gadwyn gyflenwi i ofyn am farn y diwydiant a recriwtio arbenigedd mewn ymgais i helpu cynhyrchion Cig Oen Cymru i aros ar silffoedd siopau am fwy o amser, gan gynyddu eu gwerth ar y farchnad a rhoi hwb i allforion.

Ar hyn o bryd, mae oes silff Cig Oen Cymru yn un rhan o bump o oes silff un o'i brif gystadleuwyr byd-eang, sef Cig Oen Seland Newydd.

“Mae gan Gig Oen Seland Newydd oes silff o 100 diwrnod, o'i gymharu ag oes silff Cig Oen Cymru o 21 diwrnod. Mae hynny'n wahaniaeth mawr ac mae'n cyfyngu ar allu'r diwydiant yng Nghymru i wneud y gorau o gyfleoedd allforio ac i hawlio lle ar silffoedd y DU,” meddai Luned Evans, Swyddog Datblygu'r Diwydiant yn Hybu Cig Cymru.

“Mae brand Cig Oen Cymru yn adnabyddus iawn ac yn cael ei barchu'n fawr ym mhedwar ban byd, ond er mwyn manteisio ar y statws gwych hwn, mae angen i Gig Oen Cymru fod ar silffoedd y siopau am gyfnod hwy a chael ei allforio yn y modd mwyaf cost-effeithiol.

“Rydyn ni wedi darganfod bod cydweithredu a chyfathrebu clir yn y diwydiant wedi bod yn allweddol i lwyddiant mewn marchnadoedd tebyg mewn rhanbarthau a gwledydd eraill, ac mae angen inni ddal i fyny ac yna arwain y ffordd yng Nghymru,” meddai Miss Evans.

Mae HCC yn gweithio gyda Phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwy'r Rhwydwaith WISE i ddatblygu ymagwedd ledled y gadwyn gyflenwi at ymchwilio i'r ffordd orau o fanteisio'n llawn ar gyfleoedd ar gyfer brand Cig Oen Cymru PGI. Mae cyfweliadau a thrafodaethau grŵp gyda ffermwyr, proseswyr a marchnadoedd da byw eisoes wedi'u cynnal er mwyn nodi materion megis y ffordd y mae anifeiliaid yn cael eu gorffennu a dulliau cludiant rhwng y fferm a'r lladd-dy.

“Mae treialon eraill yn parhau ond mae'n bryd bellach i ymgysylltu â'r diwydiant yn ei gyfanrwydd. Mae'r arolwg ar wefan HCC a byddwn yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol i roi gwybodaeth am sut i gymryd rhan. Mae'r holl ffermwyr, proseswyr, dosbarthwyr a manwerthwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan,” meddai Miss Evans.

Mae HCC eisiau mewnbwn y diwydiant ar ymestyn oes silff Cig Oen Cymru. I lenwi’r holiadur, cliciwch yma.