Skip to content

Oes-silff hirach i Gig Oen Cymru

Oes-silff hirach i Gig Oen Cymru

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi estyniad sylweddol yn oes silff cyfartalog Cig Oen Cymru PGI – a thrwy hynny wedi llwyddo i wneud y diwydiant yn fwy cystadleuol yn yr hirdymor.

O’r blaen, roedd oes silff yn amrywio o oddeutu 21 i 28 diwrnod, ond mae ffigurau a gafwyd gan broseswyr yng Nghymru yn cadarnhau gwelliant o 16% yn ystod y flwyddyn, i 33 diwrnod ar gyfartaledd.

Bu rhai cynhyrchwyr tramor yn arloesi o ran estyn oes silff cig oen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ystyrir bod efelychu'r gwelliant hwn yn allweddol i wneud Cig Oen Cymru yn fwy cystadleuol yn y farchnad fanwerth ac yn gymorth i ddenu cwsmeriaid newydd mewn gwledydd tramor.

Wrth dywys y diwydiant tuag at y gwelliannau hyn, mae HCC wedi rhoi sylw i bob rhan o’r gadwyn gyflenwi. Golygodd hyn gynnal cyrsiau hyfforddi i ffermwyr ynghylch arferion gorau ar gyfer cyflwyno da byw, a gweithio gyda chwmnïau prosesu ar welliannau mewn lladd-dai, unedau torri cig ac mewn cludiant.

“Mae gwella oes silff wedi bod yn nod strategol pwysig, ac mae'n braf ein bod wedi cymryd cam pwysig ymlaen," meddai Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells.

Esboniodd: “Mae oes silff yn amrywio rhywfaint rhwng gwahanol doriadau; erbyn hyn mae gan rai cynhyrchion oes silff sy’n sylweddol hirach na mis, sy’n help mawr i ddenu cwsmeriaid newydd mewn gwledydd tramor, ac mae hefyd yn helpu’r diwydiant o ran gallu cyflenwi cig oen yn cyson drwy gydol y flwyddyn i fân-werthwyr ym Mhrydain.

“Ers i ni ddechrau canolbwyntio ar hyn, mae cannoedd o ffermwyr a myfyrwyr amaethyddol wedi mynychu ein cyrsiau-am-ddim ar sut i gyflwyno da byw i’w lladd,” ebe Gwyn. “Rydyn ni hefyd wedi gweithio law yn llaw â phroseswyr Cymru, ac rydyn ni'n parhau â'r gwaith hwn trwy ein prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, sy'n rhan o'r Rhaglen Datblygu Cig Coch a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n benderfynol o barhau â'r momentwm hwn a sicrhau canlyniadau gwell fyth mewn blynyddoedd i ddod.”

Mae ystod o adnoddau sy'n amlinellu ymchwil HCC ynglŷn â’r mater, ynghyd â chanllawiau arferion gorau yn y gadwyn gyflenwi ar gael ar ei wefan, yn https://meatpromotion.wales/en/industry-resources/sheep-management/shelf-life

14/05/2020