Skip to content

Paratoi ar gyfer Brexit


Llwybr cig coch i orchudd adroddiad prosiect y farchnadMae effaith posib Brexit ar y sector cig coch yng Nghymru yn sylweddol, ac anodd yw rhagweld effaith Brexit yn union. Ond mae HCC wedi cydweithio gyda AHDB, QMS ac eraill ar yr effeithiau posib ar amaeth a phrosesu, gan gynnwys adroddiad cynhwysfawr gan The Andersons Centre sy'n edrych ar effaith rhwystrau masnach a gwaith papur ychwanegol, ac oblygiadau amrywiol senarios ar y diwydiant.

Ar hyn o bryd mae traean o gynnyrch cig oen Cymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal â chyfaint sylweddol o gig eidion. Nawr fod cytundeb masnach wedi ei gytuno rhwng y DG a'r UE mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o'r allforion hyn yn medru parhau.

Ers y refferendwm yn 2016, mae HCC wedi:

- gweithio gyda phroseswyr i geisio rhoi sicrwydd i gwsmeriaid yn Ewrop ein bod wedi ymrwymo i gyflenwi'r farchnad

- dwysau ymdrechion i hyrwyddo cig coch o Gymru yn y farchnad ddomestig ac hefyd mewn gwledydd y tu hwnt i Ewrop, gyda chymorth buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi arwain at gynnydd nodedig yng ngwerthiant cig oen o Gymru yn y Dwyrain Canol yn enwedig.

- gweithio gyda llywodraethau a phroseswyr i gael gwared ar rwystrau hanesyddol o ran allforio cig coch o Brydain i nifer o wledydd pwysig. Bu hyn yn llwyddiannus wrth agor masnach gyda Siapan, er enghraifft, ond mae gwaharddiadau ar allforio cig oen i Tsieina a'r UDA yn parhau.

Bu trafodaeth ar yr agweddau yma yn ystod rhith-gynhadledd HCC ym mis Tachwedd 2020:

Cyngor Pellach

Bydd diwedd y cyfnod trawsnewid ar Ionawr 1 2021 yn dal i olygu newid sylweddol yn y ffordd y mae busnes yn digwydd gyda Gogledd Iwerddon ac Ewrop.

Mae amrywiaeth o wybodaeth ar gael i fusnesau ar Brexit gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar brosesau ar y ffin i fusnesau sy'n allforio.

Lawrlwythwch Adnoddau

Canllaw o ran Tystysgrifau Iechyd Allforio: clawr
Llythyr Defra at Ffermwyr: clawr
Llythyr Defra at Filfeddygon: clawr
Canllaw ar symud anifeiliaid i ac o Ogledd Iwerddon: clawr