Skip to content

Prosiect Newydd i Ymchwilio i Fuddion System Bori

Prosiect Newydd i Ymchwilio i Fuddion System Bori

Mae prosiect cyffrous sy’n ymchwilio i fuddion economaidd ac amgylcheddol  systemau pori gwahanol ar ffermydd ledled y DU wedi dechrau.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn cefnogi’r prosiect newydd, ynghyd â Phrifysgol Bangor, a fydd yn ymchwilio i effaith pori gwib ar berfformiad anifeiliaid, y costau cynhyrchu, priodweddau’r pridd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r gwaith yn cael ei wneud ar fferm Glynllifon ger Caernarfon, sef coleg amaethyddol sydd wedi'i hen sefydlu ac sy'n berffaith ar gyfer ymgysylltu'n eang â'r diwydiant yn gyffredinol. Bydd y gwaith yng Nglynllifon yn ategu prosiect sy’n cael ei ariannu gan Defra ac sy'n cael ei ddarparu gan ADAS yn Lloegr.

Mae rheoli tir glas yn effeithiol yn hanfodol er mwyn gwella gwytnwch cyffredinol ffermydd defaid a gwartheg cig eidion yng Nghymru. Mae pori gwib yn golygu rhoi llawer o anifeiliaid ar ddarn o dir â phorfa hir am gyfnod byr cyn eu symud mewn cylchdro i ddarn arall o dir tebyg. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r borfa aildyfu, yn hytrach na’i  bori drwy’r amser, fel sy’n digwydd â phori sefydlog arferol.

Mae nifer gynyddol o ffermwyr yng Nghymru wedi troi at system bori gwib ar sail adroddiadau fod y cynnyrch yn well, ond mae angen dysgu mwy am y buddion economaidd ac amgylcheddol yn gyffredinol.

Bydd y prosiect cydweithredol hwn yn ymchwilio i hyn er mwyn rhoi'r dystiolaeth sydd ei hangen ar ffermwyr Cymru a'r DU i ddangos sut gall y system reoli hon wella cynnyrch ynghyd â chyfoethogi'r amgylchedd.

Dywedodd Rhodri Manod Owen, y Rheolwr Fferm a Choedwig yng Nglynllifon: “Nod cyffredinol y prosiect hwn yw asesu’r goblygiadau ymarferol, economaidd ac amgylcheddol o newid o system bori sefydlog neu bori cylchdro confensiynol i bori gwib.

“Bydd y prosiect yn gallu dangos a fyddai ffermio yn y DU yn elwa yn ymarferol ac economaidd wrth wneud mwy o ddefnydd o bori gwib mewn cymhariaeth â phori sefydlog. Bydd hefyd yn ceisio canfod unrhyw broblemau a manteision a dangos a yw system bori gwib yn cael dylanwad ehangach – megis ar ansawdd y pridd, awyr a dŵr, bioamrywiaeth, storio carbon a iechyd a lles anifeiliaid.”

Bydd HCC yn cefnogi Prifysgol Bangor a Glynllifon gyda’r prosiect hwn. Dywedodd Nia Davies, Swyddog Ymchwil a Datblygu HCC: “Mae HCC yn falch dros ben o fod yn rhan o’r prosiect ymchwil hwn ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Phrifysgol Bangor a Glynllifon. Am nad oes unrhyw dystiolaeth o’r DU ynghylch effaith pori gwib ar gynnyrch a’r amgylchedd, bydd y prosiect hwn yn gwneud gwaith amserol a phwysig iawn wrth i ni geisio gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol ein systemau da byw.”

Dechreuodd y prosiect ar naw fferm yn y DU ym mis Mai 2021 a bydd yn rhedeg am dair blynedd.

 

25 Awst 2021