Skip to content

Rhan flaenllaw gan Gig Oen Cymru yn ffilm newydd Matthew Rhys

Rhan flaenllaw gan Gig Oen Cymru yn ffilm newydd Matthew Rhys

Mae un o sêr Hollywood, Matthew Rhys, a fu’n lleisio hysbysebion HCC ar gyfer Cig Oen Cymru, wedi troi ei law at goginio’r cig i’r safon uchaf yn ei ffilm newydd Burnt, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn sinemâu’r DU dros y Sul.

Mae Matthew yn chwarae rhan pen-cogydd â thair seren Michelin, ac er mwyn argyhoeddi yn ei berfformiad gofynnodd i’r pen-cogydd Bryn Williams sy’n aelod o Glwb Cig Oen Cymru PGI am awgrymiadau ynglŷn â choginio cordon bleu wrth ddefnyddio Cig Oen Cymru.

Dywedodd Matthew: "Bryn oedd y person cyntaf a ddaeth i fy meddwl pan gefais y rhan yn Burnt, yn enwedig am fy mod yn cymryd yn ganiataol fod y teitl yn disgrifio fy sgiliau i yn y gegin!

“Ar ôl treulio oes yn bwyta Cig Oen Cymru, ac am fy mod yn hanu o deulu mawr sy’n cynhyrchu’r cig, roedd yn braf cael gwersi ar sut i’w goginio’n iawn gan ben-cogydd o fri.”

Roedd Bryn Williams, sy’n rhedeg tŷ bwyta Odette’s yn Llundain, yn falch o allu helpu Matthew i berffeithio’i berfformiad: “Pan gefais alwad ffôn yn dweud fod Matthew am ddysgu rhai o gyfrinachau coginio, rown i’n fwy na bodlon helpu un o fy nghyd-Gymry.

“Ond, a bod yn onest, doedd dim angen llawer o hyfforddiant arno oherwydd roedd e eisoes yn gogydd reit dda!”

Mae Burnt yn  adrodd hanes pen-cogydd o’r enwAdam Jones (Bradley Cooper) sydd wedi dinistrio’i yrfa trwy gymryd cyffuriau ac ymddwyn yn rhwysgfawr. Yn y diwedd mae’n newid er gwell ac yn dychwelyd i Lundain er mwyn rhedeg tŷ bwyta a all ennill tair seren Michelin. Mae Matthew Rhys yn chwarae Montgomery Reece, prif gystadleuydd Adam Jones, ac mae gweddill y cast yn cynnwys Uma Thurman, Sienna Miller ac Emma Thompson.

Mae mwy o wybodaeth ar y wefan yma: http://burntmovie.com/