Skip to content

Wynebwch yr her a chynhyrchu’n effeithlon

Wynebwch yr her a chynhyrchu’n effeithlon

Cafwyd trafodaeth fywiog ar ddyfodol y sector cig coch mewn cyfarfod i ffermwyr a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) yr wythnos ddiwethaf.

Daeth dros 50 o gynhyrchwyr cig oen ac eidion ynghyd ar Gampws Glynllifon Grŵp Llandrillo Menai ger Caernarfon i wrando ar gyngor tri siaradwr gwadd ar sut i roi hwb i effeithlonrwydd cynhyrchu cig coch yng Nghymru.  

Dangosodd y siaradwyr sut mae ystyriaethau amgylcheddol, yn cynnwys lleihau ôl troed carbon ffermydd, yn mynd law yn llaw gyda thargedau effeithlonrwydd mewn cynhyrchu cig coch, gan arwain at fusnesau mwy proffidiol a chynaliadwy.

Dywedodd Dr Prysor Williams, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor y bydd y galw byd-eang am gig coch yn cynyddu dros amser yn unol â chynnydd ym mhoblogaeth y byd. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar y sector da byw ac ar ffermwyr i gyrraedd targedau amgylcheddol.

“Bydd effeithlonrwydd yn bwysig ar gyfer y gallu i oroesi,” media Dr Williams sydd wedi cydweithio efo HCC ar nifer o brosiectau amgylcheddol a newid hinsawdd. “Mae ffermydd gydag ôl troed carbon is yn fwy proffidiol bron bob tro, a dylai cynhyrchwyr i gyd anelu at gyrraedd y nod yma. Mae nifer o ffermydd yng Nghymru ar dop eu gêm - mae angen i’r sector cyfan symud yn y cyfeiriad hwnnw.”

Pwysleisiodd y milfeddyg Arwyn Evans o Filfeddygon Dwyfor bwysigrwydd effeithlonrwydd i gynyddu ffrwythlondeb y fuches sugno cig eidion. Dywedodd bod rheolaeth dda o’r fuches yn fodd i gynyddu’r allbynnau sy’n arwain at fwy o enillion ariannol. Mae’r arferion da yn cynnwys cyfnod lloia cyfyng o 6-10 wythnos, mesur ffrwythlondeb, cynnal y cyflwr corfforol cywir ar gyfer gwartheg, rheolaeth effeithlon o heffrod magu, rheoli clefydau sy’n effeithio ar ffrwythlondeb a cholledion, a phwysigrwydd EBVau.  

Derbyniodd y siaradwr Alan Gardner Ysgoloriaeth HCC i ymweld â Seland Newydd i edrych ar sut oedd ffermwyr yno yn cynyddu eu henillion ac yn canolbwyntio ar ddatblygu eu busnesau mor effeithiol â phosib. Creodd eu defnydd rheolaidd o gofnodi data a monitro gryn argraff arno, a dywedodd bod dulliau meincnodi wedi dod yn arferiad ganddynt er mwyn mesur perfformiad eu busnes flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd Alan yn edmygu parodrwydd ffermwyr i rannu gwybodaeth a phenderfyniadau busnes er mwyn lleihau risgiau a’r posibilrwydd o golledion ariannol.

Bu’r gynulleidfa a’r siaradwyr yn rhan o drafodaeth fywiog i gau’r cyfarfod, gan ganolbwyntio ar y cydbwysedd rhwng dulliau traddodiadol a’r angen i arloesi a rhoi’r arferion mwyaf effeithiol o bob cwr o’r byd ar waith mewn amaethyddiaeth yng Nghymru.

Meddai Dr Williams: “Mae angen llawer o waith ymchwil a datblygu, sydd angen cryn fuddsoddiad, i ddatblygu dulliau cynhyrchu effeithlon ymhellach. Mae cryn botensial yn ein sector cig coch, ac mae pobl yn disgwyl gwerth am arian ac ansawdd, ni allwn fforddio cael ein gadael ar ôl yn y farchnad gystadleuol yma.”

Eglurodd Gwawr Parry sut mae HCC ynghlwm â phrosiectau ymchwil a datblygu o fewn y diwydiant. Meddai: “Roedden ni’n falch iawn i weld cymaint o gynhyrchwyr yn ein cyfarfod Cam-Ymlaen 2017 wythnos diwethaf ac fe wnaethom fwynhau’r cyfle i ymgysylltu efo’n rhanddeiliaid a grŵp o 60 o fyfyrwyr amaeth yng Nglynllifon. 

“Canolbwyntiodd ein siaradwyr gwadd ar gynhyrchu cig coch yn effeithlon ac ar feincnodi, a phwysleisiwyd y pwysigrwydd o ddefnyddio’r data yma i werthuso busnesau. Rydym yn gobeithio bod hon yn neges y bydd ffermwyr yn ei rhoi ar waith ar eu ffermydd.”

Roedd y cyfarfod Cam-Ymlaen 2017 yn un o gyfres o ddigwyddiadau a gynlluniwyd i rannu gwybodaeth ac arloesedd i roi hwb i broffidioldeb a chynaliadwyedd busnesau cig coch.