Skip to content

Y sefyllfa ynglŷn ag ymwrthedd i foddion lladd llyngyr

Y sefyllfa ynglŷn ag ymwrthedd i foddion lladd llyngyr

Trefnwyd cyfres o gyfarfodydd i drafod canfyddiadau newydd pwysig ynghylch lefelau ymwrthedd gwrthlyngyrol ar ffermydd yng Nghymru.

O dan oruchwyliaeth Hybu Cig Cymru (HCC), mae prosiect ar waith i weld pa mor effeithiol yw moddion lladd llyngyr ar gyfer dileu clefydau parasitig mewn defaid.

Mae canlyniadau cynnar o sampl o 25 o ffermydd wedi datgelu bod ymwrthedd i wrthlyngyryddion ar gynnydd. Mae'r rhain yn cynnwys triniaethau gwrthlyngyrol a oedd, yn flaenorol,  yn cael eu hystyried yn effeithiol ar gyfer cael gwared ar barasitiaid mewn defaid.

Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn cael eu trafod yn fanylach yn ystod pum cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth, Aberhonddu, Y Trallwng a Llanrwst. 

“Mae ymwrthedd gwrthlyngyrol yn golygu bod gwrthlyngyrydd yn colli effeithiolrwydd am fod rhai o'r llyngyr yn goroesi triniaeth," meddai Lynfa Davies, Swyddog Datblygu Technegol HCC. “Mae hwn yn fater pwysig a fydd yn effeithio ar gynaliadwyedd y diwydiant defaid yng Nghymru oni fydd yn cael ei gymryd o ddifri.

“Mae modd canfod a yw gwrthlyngyryddion yn gweithio'n effeithiol ar eich fferm wrth wneud prawf syml ar y cyd â’ch milfeddyg. Gall defnyddio'r triniaethau cywir gynyddu cynhyrchiant ac arbed arian i chi.”

Mae Eurion Thomas o Techion yn cynnal yr ymchwil ar ran HCC. Bydd yn cyflwyno’r canlyniadau yn fwy manwl yn ystod y cyfarfodydd

Mae nifer o filfeddygon ledled Cymru wedi bod yn ymwneud â'r gwaith hwn o'r cychwyn cyntaf, a byddant yn defnyddio eu gwybodaeth leol i gyfeirio at astudiaethau achos o bob rhan o'r wlad.

Hefyd, bydd Neil Paton MRVS o Ganolfan Milfeddygol Rhanbarthol Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei waith diweddar ar un o’r clefydau parasitig cyffredin, sef llyngyr yr iau.

Fe gynhelir y cyfarfodydd hyn ar y dyddiadau a ganlyn:

Dydd Mawrth 28 Ebrill 2015    6.00pm  -   Clwb Rygbi Llambed, SA48 7JA

Dydd Mercher 29 Ebrill 2015  2.00pm  -   Gwesty Conrah, Aberystwyth, SY23 4DF

Dydd Mawrth 5 Mai 2015        6.00pm  -   Gwesty’r Castell, Aberhonddu, LD3 9DB

Dydd Mercher 6 Mai 2015      2.00pm  -   Marchnad Da Byw Y Trallwng, SY21 8SR

Dydd Mercher 13 Mai 2015     2.00pm  -   Gwesty'r Eryrod, Llanrwst, LL26 0LG

Dylai’r sawl sydd am fynd i gyfarfod gofrestru drwy ffonio HCC ar 01970 625050, tecstio eu henw a lleoliad y digwyddiad i 07970 907229 neu anfon e-bost i info@hccmpw.org.uk.

Bydd y prosiect yn rhedeg tan fis Mehefin 2015, ac mae’n cael ei ariannu gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13.