Skip to content

Ymgyrch Newydd yn Annog Cwsmeriaid i Roi Cynnig ar Ryseitiau Cig Oen

Ymgyrch Newydd yn Annog Cwsmeriaid i Roi Cynnig ar Ryseitiau Cig Oen

Mae cam cyntaf ymgyrch ledled Prydain wedi lansio’r mis hwn sy’n annog defnyddwyr i roi cynnig ar ryseitiau newydd gyda chig oen.

Wedi’i arwain gan Hybu Cig Cymru (HCC), Quality Meat Scotland (QMS), a'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), mae'n cynnwys fideo ar alw, hysbysebion radio a dros gyfryngau digidol yn ogystal â phartneriaethau newyddion lleol. Mae disgwyl iddo gyrraedd 75% o’r holl oedolion (15-64 oed) ym Mhrydain.

Mae’r ymgyrch newydd yn dilyn yr ymgyrch cig eidion hynod boblogaidd ‘Beth Amdani’ a ganolbwyntiodd ar hyrwyddo toriadau stêc a rhostio ar ôl i’r galw ddisgyn yn sgil COVID-19 oherwydd cau lleoliadau bwyta allan. Mae’r galw manwerthu am doriadau cig eidion premiwm wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae prisiau’r farchnad i ffermwyr wedi sefydlogi.

Mae camau hyrwyddo pellach ar gyfer cig oen ar y gweill yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan ymateb i amodau’r farchnad wrth i gyfnod y cloi ddod i ben ac wrth i leoliadau ar gyfer bwyta allan ddechrau ailagor.

Ymhlith y ryseitiau a welir yng ngham cyntaf yr hysbysebu mae Golwythion Cig Oen cyflym a hawdd gyda Chaws Ffeta, Wraps Cig Oen, Pittas Cig Oen a Tzatziki, a Sgiweriaid Cig Oen Satay ar gyfer y barbeciw.

Mae’r cyflwynydd teledu a’r cogydd John Torode yn cefnogi’r ymgyrch, a fydd yn helpu i rannu blas unigryw, ansawdd uchel a hyblygrwydd cig oen gyda’r cwsmer.

Dywedodd datganiad ar y cyd gan y byrddau ardoll: “Nod yr ymgyrch ‘Cig Oen – Beth Amdani’ yw sbarduno gwerthiant cig oen ledled y wlad trwy ddarparu ystod o ryseitiau cig oen syml, blasus newydd ynghyd ag awgrymiadau a syniadau sy’n berffaith ar gyfer prydau teulu neu farbeciw haf.

“Mae’n anodd rhagweld sut y bydd y galw yn esblygu yn ail hanner y flwyddyn wrth i ni gyrraedd y cyfnod cynhyrchu brig ar gyfer cig oen. Byddwn yn ymateb yn ôl yr angen trwy ymgyrchoedd deniadol sydd wedi'u targedu at rannau mwyaf priodol y farchnad.”

Mae'r ymgyrch yn cael ei hariannu o'r gronfa gwerth £3.5 miliwn o ardoll cig coch AHDB sydd wedi'u neilltuo ar gyfer prosiectau cydweithredol sy'n cael eu rheoli gan dri chorff ardoll cig Prydain Fawr - HCC, QMS ac AHDB.

Mae'r gronfa neilltuedig yn drefniant dros dro tra ceisir datrysiad tymor hir ar fater ardollau yn cael eu casglu adeg eu lladd yn Lloegr ar gyfer anifeiliaid sydd wedi'u magu yn yr Alban neu Gymru.

06/07/2020