Skip to content

Ysgoloriaeth HCC yn gyfle gwych am ymchwil mewn gwledydd pell

Ysgoloriaeth HCC yn gyfle gwych am ymchwil mewn gwledydd pell

Mae ffermwyr y dyfodol yng Nghymru yn cael eu gwahodd gan Hybu Cig Cymru (HCC) i fanteisio ar gyfle untro-mewn-bywyd i wella’u sgiliau trwy ddysgu am y diwydiant amaethyddiaeth a bwyd mewn gwledydd tramor trwy gyfrwng cynllun Ysgoloriaeth flynyddol HCC.

Yn y gorffennol mae Ysgolorion HCC wedi ymweld â Gogledd a De America, Awstralia, Seland Newydd a llawer o gyrchfannau amaethyddol pwysig eraill lle mae cynhyrchwyr, proseswyr a pherchnogion siopau wedi arloesi er mwyn hybu eu busnesau, sicrhau cynaladwyedd a gwella elw.

“A oes angen gwella rhai agweddau ar eich busnes, a chithau heb wybod yn union sut mae mynd ati? Ni waeth beth yw maint eich fferm na’ch cefndir, os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy ac os ydych chi’n gweithio’n llawn amser yn y diwydiant cig coch yng Nghymru, gallai Ysgoloriaeth HCC fod yr union beth sydd ei angen arnoch,” meddai James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC. “Mae gennych tan 17 Mehefin i wneud cais.

“Mae Ysgoloriaeth HCC yn gyfle i ehangu eich gorwelion ac ychwanegu at eich gwybodaeth am y sector cig coch ymhell y tu hwnt i Gymru," meddai Mr Ruggeri. “Byddwch yn derbyn £3,000 i ymweld â gwlad o'ch dewis eich hun am rhwng pedair a chwe wythnos er mwyn ymchwilio i dechnegau newydd ac arloesol y gellid eu cymhwyso at eich busnes eich hun a'r diwydiant yn gyffredinol.

“Yn gyfnewid, mae disgwyl i chi rannu eich gwybodaeth newydd â’r diwydiant. Fel Ysgolor, byddwch yn adrodd am eich profiadau ac yn annerch grwpiau ffermwyr lleol.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Ysgoloriaeth HCC, Eurion Thomas: “Byddwch yn ymuno â’r Gymdeithas Ysgoloriaeth, sydd ar gynnydd – “clwb” unigryw o gyn-ysgolorion sydd bellach yn fentoriaid a llysgenhadon i’r diwydiant ac sydd yn aml yn cymryd eu ymchwil a’u gwybodaeth i lefel uwch.

“Mae’r sector cig coch ag angen pobl uchelgeisiol o bob oed i hybu'r diwydiant yn y dyfodol. Gallai'r rhain fod yn ffermwyr, cigyddion neu aelodau o'r sector prosesu. Hoffem glywed gan bawb sydd yn egnïol, uchelgeisiol, ac sydd am weld y diwydiant yn datblygu.” 

Mae rhagor o wybodaeth ac adroddiadau ysgolorion blaenorol ar gael ar wefan HCC: http://welsh.hccmpw.org.uk/farming/scholarships