{"id":1198,"date":"2024-04-10T14:58:32","date_gmt":"2024-04-10T14:58:32","guid":{"rendered":"https:\/\/test.hcc.creo.co.uk\/?p=1198"},"modified":"2024-05-21T15:41:35","modified_gmt":"2024-05-21T15:41:35","slug":"fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/","title":{"rendered":"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o fusnesau amaethyddol yn gorfod mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r tywydd heriol a newidiol, \u00a0tra\u2019n parhau i fod yn broffidiol a chynaliadwy. Mae fferm ddefaid arfordirol yng Ngheredigion, ar \u00f4l darganfod taw drwy reoli \u00a0ei thir glas yw&#8217;r ffordd orau i ddelio \u00e2 thywydd garw arfordirol a hybu cynnyrch ac incwm, wedi ymuno \u00e2 GrassCheck GB.<\/p>\n<p>Mae fferm Pen-lan, Llanrhystud yn gartref i Glyn, Eleri, Dewi ac Ifan Davies, sy\u2019n rheoli\u2019r daliad\u00a0 hwn ar lan y m\u00f4r i gynhyrchu \u0175yn cig o\u2019r ansawdd gorau. Mae gan y tir sy&#8217;n wynebu&#8217;r de, bridd bas sy&#8217;n gallu bod yn heriol o ran twf y borfa yn ystod misoedd sych yr haf. Dechreuodd Glyn ac Eleri redeg y fferm yn 1998.<\/p>\n<p>Mae\u2019r 35 hectar (86 erw) o dir pori yn cael ei bori mewn cylchdro gan ddiadell o 250 o famogiaid croesfrid iseldir cymysg ac \u0175yn sy\u2019n cael eu gwerthu wedi\u2019u pesgi i raddau helaeth ar sail pwysau marw o ganol mis Mehefin.<\/p>\n<p>Mae gwneud y defnydd gorau o borfa yn nod allweddol i\u2019r fferm, a rhoddir sylw manwl i faetholion y pridd a\u2019r hadau a ddefnyddir i ail-hadu caeau sy\u2019n tanberfformio, gan ystyried y math o bridd a\u2019r anghenion pori. Mae cynnwys cnydau porthiant sy\u2019n cael eu pori yn eu system cynhyrchu \u0175yn yn allweddol ar gyfer rheoli\u2019r cyflenwad porthiant drwy gydol y flwyddyn ar y fferm hon.<\/p>\n<p>Daw heriau\u2019r priddoedd bas sy\u2019n wynebu\u2019r de yn amlwg pan fo\u2019r tywydd yn sych yn ystod misoedd y gwanwyn a\u2019r haf, ac mae\u2019r teulu Davies felly yn datblygu strategaethau ar gyfer defnyddio maetholion trwy ddadansoddi\u2019r pridd a chynllunio maetholion ar gyfer pH. Mae cywiro mynegeion yn flaenoriaeth wrth ddewis tir pori sy&#8217;n tanberfformio i&#8217;w ail hadu a \u00a0gwneud y defnydd o fewnbwn yn fwy effeithlon.<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am y tir mae\u2019n ei reoli gyda\u2019i wraig a\u2019i feibion a\u2019r penderfyniadau anodd sydd raid eu gwneud i fod yn broffidiol, eglura Glyn Davies: \u201cMae gennym dir bas iawn ac mae rhan ohono\u2019n arfordirol iawn gyda thua 8 hectar (20 erw) yn wynebu\u2019r m\u00f4r. Mae tua 20 hectar (50 erw) gwastad ar y top ac yna\u2019n goleddu tuag i lawr. Mae tua hanner y tir yn weddol hawdd i\u2019w reoli a\u2019r hanner arall ychydig yn fwy heriol.<\/p>\n<p>\u201cRydw i wedi sylwi fod patrymau\u2019r tywydd yn newid, a byddwn yn dweud fod y tir yn llosgi ychydig yn fwy erbyn hyn. Rydym hefyd wedi gweld llai o borfa pan fo mwyaf ei angen, a dwy flynedd yn \u00f4l pan gawsom yr haf poeth iawn hwnnw roedd yn anodd iawn i ni. Roedd rhaid bwydo\u2019r defaid o ganol Gorffennaf tan fis Medi o achos doedd dim porfa\u2019n tyfu.<\/p>\n<p>\u201cY tywydd yw\u2019r her fwyaf sydd gennym. Rydyn ni&#8217;n llosgi&#8217;n rhwydd yma a gall fod yn anodd cael porfa i dyfu ar yr amser iawn. Os yw\u2019n haf sych, byddwn yn rhedeg allan o borfa a dyna pryd mae angen i ni benderfynu beth i\u2019w wneud gyda\u2019r \u0175yn. Ydyn nhw&#8217;n cael eu gwerthu fel \u0175yn st\u00f4r neu ydyn ni&#8217;n mynd i geisio eu pesgi. Mae\u2019n anodd rheoli hyn weithiau.\u00a0 Tan yn ddiweddar, roedd gwneud yn si\u0175r fod yna borfa ar yr amser iawn yn anodd.\u201d<\/p>\n<p>Gan ddeall bod angen newid tacteg, bu Glyn Davies yn gweithio gyda Dewi ac Ifan i ddod o hyd i ateb i&#8217;w problem ynghylch porfa ac ymunodd y fferm \u00e2 GrassCheck GB ychydig dros ddwy flynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>\u201cPan ddechreuon ni ffermio yma, roeddwn i&#8217;n cario ymlaen \u00e2&#8217;r hyn roeddwn wedi ei ddysgu. Pori popeth mewn blociau ar yr un pryd. Os oedd porfa yn y cae, roedd mamogiaid yn mynd i mewn, gan obeithio y byddai digon o borfa iddyn nhw. \u00a0Byddwn yn ychwanegu ychydig o wrtaith ac yn gobeithio am y gorau.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni wedi bod gyda GrassCheck nawr ers dwy flynedd ac rydw i wedi gadael i\u2019r bechgyn barhau \u00e2\u2019r prosiect. Down i ddim yn meddwl ei fod yn mynd i weithio ond nawr yn yr ail flwyddyn rwy\u2019n gweld ein bod ni\u2019n tyfu mwy o borfa. Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, rydyn ni wedi llwyddo i dorri un cae bach o silwair am nad oedd y defaid yn gallu dal i fyny \u00e2\u2019r borfa. Dydw i ddim wedi gweld hynny\u2019n digwydd ers blynyddoedd lawer yma. Rydyn ni\u2019n defnyddio llai o wrtaith ac yn gwerthu mwy o \u0175yn am well pwysau a phrisiau.<\/p>\n<p>\u201cAm ein bod yn defnyddio llai o wrtaith, mae ein costau mewnbwn wedi gostwng. Rydyn ni hefyd yn defnyddio llai o danwydd ar y fferm ac yn llwyddo i gael mwy o silwair. Mae hynny&#8217;n golygu bod llai o borthiant yn cael ei brynu o\u2019r tu allan. Rydyn ni\u2019n mynd yn fwy hunangynhaliol a chynaliadwy. Mae&#8217;n rhaid i ni addasu a newid. Drwy bori celloedd yn hytrach na\u2019r cae cyfan, gallwn reoli\u2019r borfa yn well a gallwn weithio ar hynny. Trwy dyfu mwy o borfa, fe allwn ni wneud gwell gwaith yn gyffredinol,\u201d eglura Glyn.<\/p>\n<p>Mae Dewi, a welodd y prosiect GrassCheck GB yn cael ei hysbysebu gan Hybu Cig Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, yn sylweddoli, er bod angen tipyn o waith, bod yr elw o\u2019r buddsoddiad yn werth chweil.<\/p>\n<p>Dywed: \u201cMae\u2019n rhaid i chi fesur y borfa a threulio peth amser i gofnodi eich data. Yn bennaf,\u00a0 rhaid i chi ymrwymo i reoli&#8217;r tir. Fodd bynnag, rydych chi\u2019n arbed amser mewn ffyrdd eraill yn y pen draw.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanega Ifan: \u201cMae gennym orsaf dywydd a mesurydd pl\u00e2t, a gafodd eu cyflenwi fel rhan o\u2019r prosiect. Mae\u2019n ddiddorol dilyn patrwm y tywydd, ac mae hynny wedyn yn cael ei fwydo i mewn i fodel GrassCheck GB .<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r ffordd hon o ffermio hefyd yn golygu cyllidebu a gweld beth sydd o\u2019ch blaen. Mae\u2019n golygu newid sut rydych chi\u2019n rheoli\u2019r tir i gyd-fynd \u00e2\u2019r tywydd \u2013 ond mae hefyd yn gwneud yn si\u0175r fod gennych ddigon o borfa i gario ymlaen.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r teulu bellach yn rheoli eu caeau yn chwarteri, gan ddibynnu ar si\u00e2p a maint y cae. \u201cWeithiau dim ond hanner cae sy\u2019n cael gwrtaith er mwyn dal i fyny. Mae penderfynu ble i wasgaru gwrtaith yn golygu targedu manwl. \u00a0Dydy\u2019n caeau ni ddim yn fawr iawn, ac \u00a0felly rydyn ni\u2019n tueddu i osod dwy ffens drydan er mwyn eu rhannu. Mae\u2019r darnau\u2019n cael eu pori am rai dyddiau ac yna rydyn ni&#8217;n cylchdroi,\u201d meddai Dewi.<\/p>\n<p>Er bod hyn yn golygu ffordd newydd o weithio, mae&#8217;r manteision yn amlwg. \u201cY llynedd fe wnaethom lwyddo i gael ein h\u0175yn cyntaf bant o\u2019r fferm yn y drydedd wythnos o fis Mai, a oedd yn gynt nag arfer. Fel arfer, mae\u2019n tawelu wedyn, ond rydyn ni\u2019n dal i werthu. Roedd y mamogiaid a&#8217;r \u0175yn yn cael porfa ffres bob 2 \u2013 3 diwrnod drwy\u2019r amser. Doedd dim prinder porthiant o gwbl.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n debyg bod y mamogiaid eu hunain yn y cyflwr gorau y buon nhw ynddo erioed. Roedden nhw\u2019n edrych yn dda yn yr hydref pan aethon nhw at yr hyrddod, roedd y ganran sganio yn uwch a chawson ni lawer mwy o efeilliaid nag arfer.\u00a0 Mewn gwirionedd rydyn ni\u2019n cael tua 65 yn fwy o \u0175yn nag yn y blynyddoedd blaenorol ac mae\u2019r mamogiaid eu hunain yn iach. Maen nhw\u2019n disgleirio,\u201d ychwanega Ifan.<\/p>\n<p>Daeth newid pellach o ran rheoli\u2019r tir pan gyflwynwyd cae o faip sofl ac mae\u2019n fwriad i ail-hadu, gyda\u2019r holl benderfyniadau\u2019n cael eu gwneud ar sail data.\u00a0 Eglura Dewi: \u201cRydyn ni\u2019n defnyddio\u2019r llecyn maip fel ffynhonnell egni a phrotein i\u2019r mamogiaid a\u2019r \u0175yn ar \u00f4l \u0175yna ac mae\u2019n golygu nad oes angen bwydo dwysfwyd. Mae hynny i gyd yn ychwanegu at gynaliadwyedd y fferm.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni nawr yn edrych ar raglen ail-hadu hefyd. Y bwriad yw cynnwys rhywfaint o \u00a0borthiant \u2013 r\u00eap porthiant i besgi\u2019r \u0175yn yn yr haf , sofl maip yn mynd i mewn wedyn ac yna byddwn yn ail-hadu yn y gwanwyn ac yn mynd yn \u00f4l at borfa. Does dim ail-hadu wedi digwydd yma ers tua 20 mlynedd. Nawr rydyn ni\u2019n edrych ar y caeau sy&#8217;n perfformio orau ac yn dewis y rhai sydd mewn angen. Mae\u2019r data yno, ac rydym yn gwneud ein penderfyniadau ar sail y data hwnnw.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi\u2019r Dyfodol HCC, Rachael Madeley-Davies: \u201cMae fferm Pen-lan yn enghraifft wych o\u2019r hyn y gellir ei gyflawni os byddwn yn camu y tu allan i\u2019n parth cysurus ac yn cofleidio technoleg a ffyrdd newydd o ffermio. Mae HCC yn arwain y ffordd o ran annog y diwydiant i feddwl yn wahanol ac mae\u2019r enghraifft hon yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy wneud penderfyniadau ar sail data; drwy ddefnyddio data fel cofnodion tywydd, gall ffermydd wella eu cynnyrch a\u2019u heffeithlonrwydd, ac maen nhw\u2019n gwneud hynny.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o fusnesau amaethyddol yn gorfod mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r tywydd heriol a newidiol, \u00a0tra\u2019n parhau i fod yn broffidiol a chynaliadwy. Mae fferm ddefaid arfordirol yng Ngheredigion, ar \u00f4l darganfod taw drwy reoli \u00a0ei thir glas yw&#8217;r ffordd orau i ddelio \u00e2 thywydd garw arfordirol a hybu cynnyrch ac incwm, wedi ymuno &hellip; <a href=\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":1196,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1198","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v22.5 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i&#039;r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa - Hybu Cig Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Hybu Cig Cymru- Meat Promotion Wales. In HCC\u2019s orbit, new developments happen daily, in both our home or international export markets, our family farm network or around industry policy matters. When things happen, you will read about them here.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i&#039;r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa - Hybu Cig Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Hybu Cig Cymru- Meat Promotion Wales. In HCC\u2019s orbit, new developments happen daily, in both our home or international export markets, our family farm network or around industry policy matters. When things happen, you will read about them here.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hybu Cig Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-04-10T14:58:32+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-05-21T15:41:35+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2048\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1536\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Nia\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Nia\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/\",\"url\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/\",\"name\":\"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i'r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa - Hybu Cig Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg\",\"datePublished\":\"2024-04-10T14:58:32+00:00\",\"dateModified\":\"2024-05-21T15:41:35+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#\/schema\/person\/b193707c8e5eeb8e7c600f33a0b7e6c8\"},\"description\":\"Hybu Cig Cymru- Meat Promotion Wales. In HCC\u2019s orbit, new developments happen daily, in both our home or international export markets, our family farm network or around industry policy matters. When things happen, you will read about them here.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg\",\"width\":2048,\"height\":1536,\"caption\":\"Sheep in a field in\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Newsroom\",\"item\":\"\/newsroom\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/\",\"name\":\"Hybu Cig Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#\/schema\/person\/b193707c8e5eeb8e7c600f33a0b7e6c8\",\"name\":\"Nia\",\"url\":\"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/author\/nia\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i'r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa - Hybu Cig Cymru","description":"Hybu Cig Cymru- Meat Promotion Wales. In HCC\u2019s orbit, new developments happen daily, in both our home or international export markets, our family farm network or around industry policy matters. When things happen, you will read about them here.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i'r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa - Hybu Cig Cymru","og_description":"Hybu Cig Cymru- Meat Promotion Wales. In HCC\u2019s orbit, new developments happen daily, in both our home or international export markets, our family farm network or around industry policy matters. When things happen, you will read about them here.","og_url":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/","og_site_name":"Hybu Cig Cymru","article_published_time":"2024-04-10T14:58:32+00:00","article_modified_time":"2024-05-21T15:41:35+00:00","og_image":[{"width":2048,"height":1536,"url":"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Nia","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Nia","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/","url":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/","name":"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i'r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa - Hybu Cig Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg","datePublished":"2024-04-10T14:58:32+00:00","dateModified":"2024-05-21T15:41:35+00:00","author":{"@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#\/schema\/person\/b193707c8e5eeb8e7c600f33a0b7e6c8"},"description":"Hybu Cig Cymru- Meat Promotion Wales. In HCC\u2019s orbit, new developments happen daily, in both our home or international export markets, our family farm network or around industry policy matters. When things happen, you will read about them here.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#primaryimage","url":"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/meatpromotion.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Penlan-2.jpg","width":2048,"height":1536,"caption":"Sheep in a field in"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/fferm-arfordirol-yng-ngheredigion-yn-mynd-ir-afael-a-thywydd-cyfnewidiol-drwy-reolir-borfa\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Newsroom","item":"\/newsroom"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Fferm arfordirol yng Ngheredigion yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 thywydd cyfnewidiol drwy reoli\u2019r borfa"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#website","url":"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/","name":"Hybu Cig Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/#\/schema\/person\/b193707c8e5eeb8e7c600f33a0b7e6c8","name":"Nia","url":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/newsroom\/author\/nia\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1198","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1198"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1198\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1199,"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1198\/revisions\/1199"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1196"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1198"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1198"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meatpromotion.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1198"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}