Skip to content

Florence Pethick

Florence Pethick

Project: Dadansoddiad genomig cymharol o Corynebacterium pseudotuberculosis

Type: PHD

Institution: Sefydliad Ymchwil Moredun

Report: Dadansoddiad genomig cymharol o Corynebacterium pseudotuberculosis

Mae lymffadenitis crawnllyd yn glefyd cronig mewn defaid a geifr sy'n cael ei achosi gan heintiad â'r bacteriwm Corynebacterium pseudotuberculosis, pan fydd crawniadau yn ffurfio yn y nodau lymff a meinweoedd eraill. Er ei fod yn broblem mewn sawl gwlad arall ers dros ganrif, ni ddaeth i'r DG tan tuag ugain mlynedd yn ôl ac i ddechrau credwyd ei fod yn effeithio ar fridiau gwrywod terfynol yn unig. Yn ddiweddarach, fodd bynnag daeth yn endemig yn y ddiadell genedlaethol a bellach mae'n digwydd ledled y DG.

Gall y clefyd achosi colledion ariannol sylweddol i'r diwydiannau defaid a geifr. Ymhlith y rhesymau dros y colledion sy'n gysylltiedig â lymffadenitis crawnllyd, mae llai o anifeiliaid magu yn cael eu gwerthu, cyfraddau marwolaethau uwch a llai o wlân yn cael ei gynhyrchu.  Mae cynhyrchwyr yn pryderu fwyfwy am y clefyd, ond mae'r ffyrdd o fynd i'r afael ag ef yn gyfyngedig.  Er bod brechlynnau o dramor yn cael eu defnyddio, dydyn nhw ddim yn gwbl effeithiol yn y wlad hon.

Felly, nod yr ysgoloriaeth hon yw darganfod a nodweddu proteinau newydd sy'n cael eu cynhyrchu gan yr organeb hon ac a allai fod y genhedlaeth nesaf o adweithyddion   diagnostig. Nod y prosiect yw dadansoddi dilyniant genom Corynebacterium pseudotuberculosis, gyda golwg ar adnabod yr hyn a allai fod yn antigenau diagnostig. Bydd gwaith dilynol ymhlith panel amlwladol yn pennu cadwraeth y targedau antigen hyn  o unigion C. pseudotuberculosis. Yn ogystal, caiff y proteinau hyn eu sgrinio trwy ddefnyddio sera imiwn o ddefaid â lymffadenitis crawnllyd i asesu eu defnyddioldeb fel adweithyddion diagnostig.

Roedd y prosiect hwn yn bosibl fel canlyniad i argaeledd dilyniant genom C. pseudotuberculosis, sydd ar fin ei gwblhau, ac a ddarparwyd trwy brosiect dilyniant blaenorol yn Moredun a ariannwyd gan QMS.