John Hyland
Project: Lleihau effaith amgylcheddol y sector anifeiliaid sy’n cnoi cil yng Nghymru
Type: PHD
Institution: Prifysgol Bangor
Rhaid i systemau cynhyrchu da byw newid oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Er mwyn cynyddu lefelau cynhyrchedd ac incwm, rhaid i systemau fynd yn fwy hydwyth ynghyd â gweithredu mewn ffordd sy’n parchu’r amgylchedd. Mae fy ngradd PhD yn canolbwyntio ar leihau effaith y sector cig coch yng Nghymru ar yr amgylchedd.
Mae ymchwil yn canolbwyntio fwyfwy ar ddatblygu dulliau a all leihau effaith amgylcheddol cynhyrchu da byw. Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig i lunwyr polisi ddeall sut bydd ffermwyr yn ymateb i newid yn yr hinsawdd ac yn enwedig sut byddent yn ymateb i gynlluniau a rheoliadau i geisio lleihau effaith systemau da byw.
Bydd modd gwneud hyn wrth astudio syniadau ffermwyr ynglŷn â newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn gyffredinol – a dyna yw man cychwyn f’ymchwil. Bydd modd defnyddio’r wybodaeth hon wedyn i helpu arweinwyr y diwydiant a llunwyr polisi i ddatblygu strategaethau mwy effeithiol ac ymarferol ar gyfer y sector amaethyddol. Bydd camau nesaf y PhD yn canolbwyntio ar sut y bydd mabwysiadu camau penodol yn helpu’r sector cig coch yng Nghymru i gyflawni ei dargedau ei hun yn unol â’r hyn a bennir yn rhaglen mapio amgylcheddol HCC.