Adran y Prif Weithredwr
Marchnata Strategol a Chysylltiadau
Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol
Darpariaeth y Gadwyn Gyflenwi
Cyllid a Llywodraethiant Corfforaethol
Cynrychiolwyr Tramor
Gwledydd Cyngor Cydweithrediad y Gwlff
Mae OCO Global am gwmni ymgynghorol sy’n arbenigo mewn masnach, buddsoddi, a gwasanaethau datblygu economaidd. Mae’r cwmni’n cefnogi cwmnïau rhyngwladol drwy weithio ar ddatrysiadau cynaliadwy wrth gysylltu sefydliadau gyda chyfleoedd byd eang sy’n meithrin llwyddiant, yn creu gwaith, a hybu twf economaidd.
Yr Eidal
Mae Ne.www.s yn asiantaeth marchnata a chyfathrebu a sefydlwyd yn 2000 ym Milan, gan weithio gyda brandiau Eidalaidd a rhyngwladol. Y prif weithgarwch yw: gwasanaethau marchnata, swyddfa’r wasg, trefnu digwyddiadau, hysbysebu a chynllunio’r cyfryngau, gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus a digidol, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Ne.www.s yn gweithredu mewn meysydd amrywiol yn cynnwys bwyd a diod, nwyddau moethus, lletygarwch, twristiaeth, arddangosfeydd a digwyddiadau.
Mae Alimentum yn cynrychioli’r farchnad, yn ymestyn gwerthiannau ac yn marchnata ac ymgynghori ar ran cwmnïau tramor gan ganolbwyntio ar y sector bwyd a diod. Prif feysydd gwaith y cwmni yw:
· Ymgynghori ar werthiannau, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus allforio
· Cysylltu cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol
· Rheoli perthnasau
· Cyfathrebu rhwng diwylliannau
Sefydlwyd Alimentum yn yr Almaen gan Patricia G. Czerniak ym mis Medi 2008 ac yn y Swistir yn Chwefror 2013. Mae Patricia yn gyn Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn gyd-berchennog ‘Food from Britain’ (Yr Almaen) ble bu’n gweithio yn yr un maes busnes ers 2003. Mae gan Patricia dros 20 mlynedd o brofiad a chysylltiadau gwerthfawr.