Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Glaswellt da yw sylfaen y diwydiant cig oen a chig eidion yng Nghymru.

Mae’r ffaith fod anifeiliaid yn cael eu magu ar borfeydd naturiol yng nghefn gwlad nodedig Cymru yn allweddol i’r enw da sydd gan ein gwlad am ansawdd a chynaliadwyedd ei chig.

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu fod rhaid i ffermwyr Cymru reoli tir glas yn effeithiol, ac mae nifer wedi ymrwymo i fod yn rhan o brosiect ymchwil pwysig a gefnogir gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Nod GrasscheckGB yw gwella cynhyrchiant tir glas a’r defnydd o borfa ar ffermydd cig eidion a defaid trwy rwydwaith newydd i fonitro perfformiad tir glas. Dewiswyd 27 o ffermydd cig eidion a defaid, gan gynnwys naw o Gymru, ochr yn ochr â 23 o ffermydd llaeth, sy’n cynrychioli ystod eang o ardaloedd daearyddol a systemau fferm, i fod yn ffermydd prawf.

Bydd y ffermwyr prawf yn mesur glaswellt bob wythnos drwy gydol y tymor tyfu ac yn cymryd samplau o laswellt. Hefyd, bydd ganddynt orsaf dywydd awtomatig ar eu fferm er mwyn cofnodi data fel tymheredd, glawiad ac oriau haul.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng HCC, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), a Quality Meat Scotland (QMS) ynghyd â’r Ganolfan Rhagoriaeth Arloesedd mewn Da Byw (CIEL) ac ymchwilwyr yn y Sefydliad Bwyd Amaeth a Biowyddorau (AFBI) a Rothamsted Research, yn ogystal â noddwyr o’r diwydiant, sef Germinal, Waitrose & Partners, Sciantec Analytical a Handley Enterprises Cyf. Mae CIEL yn cynorthwyo gyda phrynu offer ar ffermydd ag arian gan Innovate UK, Asiantaeth Arloesi’r DG.

Mae GrasscheckGB yn cael ei ariannu’n rhannol o’r gronfa gwerth £2 filiwn o ardollau cig coch AHDB a glustnodir ar gyfer prosiectau cydweithredol sy’n cael eu rheoli gan y tri chorff ardoll cig ym Mhrydain – AHDB, HCC a QMS – fel trefniad dros dro tra bo chwilio am ateb hirdymor i’r mater o ardollau’n cael eu casglu mewn lladd-dai yn Lloegr am anifeiliaid a gafodd eu magu yng Nghymru neu’r Alban.

Lawrlwythwch Adnoddau

Richard Rees, Penmaen Bach, Pennal
PDF Document
Alwyn Phillips, Pen y Gelli, Caernarfon.
PDF Document
Glyn, Eleri, Dewi and Ifan Davies, Penlan, Llanrhystud.
PDF Document
Adroddiad Diwedd Blwyddyn 1
PDF Document
Yn helpu ffermwyr Prydain i wella cynhyrchiant a phroffidioldeb systemau tir glas
PDF Document
Grasscheck GB - Ffurflen Cais - Cymraeg
Word Document