Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Meincnodi – Gwybod eich cost cynhyrchu yr uned

Mae meincnodi yn asesiad o’ch menter sy’n caniatáu i chi ddarganfod lle mae modd gwella’ch busnes trwy gymharu elfennau gweithredol unigol (e.e. data costau a pherfformiad) â ffermydd tebyg. Mae hefyd yn ysgogi ffermwyr i rannu gwybodaeth a phrofiadau

Manteision meincnodi

  • Mae’n gwella’r sefyllfa gystadleuol drwy gymharu perfformiad â pherfformiad busnesau ag arferion gorau ac mae’n gweithredu rhaglenni gwelliant yn seiliedig ar ganlyniadau
  • Mae’n rhoi cyfle i ddeall eich busnes cyfan yn well ac felly mae’n gwneud llwyddiant hirdymor yn fwy tebygol.

Download Resources

Suckler Calf Production Costs 21-22
PDF Document
Costau cynhyrchu lloi sugno 2017/18
PDF Document
Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig 2020
PDF Document

Cyfrifo eich mynegai lloia

Pa mor dda ydych chi yn ei wneud? – Cyfrifwch eich Mynegrif Lloia

Dewisiwch gyfnod o12 mis yr hoffech gyfrifo eich mynegrif lloia. Rhestrwch yr holl wartheg a ddaeth â llo yn ystod y cyfnod hwn gan nodi dyddiad dyfodiad y llo olaf ynghyd â dyddiad lloia blaenorol pob buwch. Cyfrifwch y nifer o ddyddiau rhwng y ddau ddyddiad. Dyma yw’r saib lloia i bob buwch. Cewch fynegrif lloia i bob buches wrth gyfrif swm yr holl seibiau lloia a rhannu hyn gyda’r nifer o wartheg yn y fuches. Dylai’r targed ar gyfer y rhan fwyaf o fuchesi fod yn 365 i 375 o ddiwrnodau.

Y ffordd orau o ddehongli’r mynegrif lloia yw gan gyfrif y gwartheg hesb. Rhestrwch y gwartheg a ddaeth â lloi y tymor cyn diwethaf a chyfrifwch y rhai hynny nad sy’n gyflo. Mae llai na 5-8% yn darged da, yn ddibynnol ar batrwm lloia.

Gwasgwch yma i gael enghraiff a chyfrifiannell

Sut mae’ch buches chi yn cymharu â’r targedau a pha gamau sydd angen eu cymryd i wella’r canlyniadau presennol?