Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol sector cig coch Cymru.
Gosodir pwrpas a blaenoriaethau strategol HCC, sydd wedi’u tanategu gan Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010, yn y ddogfen ‘gweledigaeth’. Mae hon yn ddogfen bwysig sy’n gosod y sylfaen i adeiladu ar ddyfodol y diwydiant ac mae’n lasbrint i HCC i gefnogi ac uno pob elfen o’r sector a’r gadwyn gyflenwi.
Datblygwyd y weledigaeth bresennol, ‘Gweledigaeth Cig Coch i Gymru’ gyda’r diwydiant ac mae’n rhedeg fyny at ddiwedd Ebrill 2026, sy’n cyd-fynd â thymor y Senedd.
Anogir talwyr ardoll ar draws Cymru i gefnogi datblygiad y ddogfen gweledigaeth nesaf – Gweledigaeth 2030 – drwy rannu eu barn ar heriau, cyfleoedd a blaenoriaethau’r diwydiant.
Gallwch gwblhau arolwg byr ar-lein drwy glicio yma. Bydd yr arolwg ar agor nes dydd Gwener 25 Gorffennaf. Bydd enw pob ymatebydd yn cael ei roi mewn het am gyfle i ennill hamper o gynnyrch Cymreig gwerth £100.
Fel arall, dewch i siarad gyda HCC i leisio eich barn mewn digwyddiadau neu yn y marchnadoedd da byw canlynol dros yr wythnos nesaf (gweler y rhestr isod).
Bydd cyfle arall i gyfrannu at Gweledigaeth 2030 yn bosibl o ganol Gorffennaf tan ddiwedd yr haf. Mwy o fanylion i ddilyn dros yr wythnosau nesaf wrth i ganfyddiadau ein harolwg lywio ein cynnydd.
Cyhoeddir Gweledigaeth 2030 yn y gwanwyn 2026 yn dilyn cytundeb Bwrdd HCC a chymeradwyaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Ymweliadau â marchnadoedd
Marchnad | Dyddiad |
---|---|
Marchnad Raglan |
Dyddiad 28.05.25 |
Marchnad Llanelwy |
Dyddiad 29.05.25 |
Marchnad Aberhonddu |
Dyddiad 30.05.25 |
Marchnad Llanybydder |
Dyddiad 02.06.25 |
Marchnad Gaerwen |
Dyddiad 04.06.25 |
Marchnad Hendy-gwyn |
Dyddiad 05.06.25 |
Marchnad Llanfair ym Muallt |
Dyddiad 06.06.25 |
Marchnad Bryncir |
Dyddiad 09.06.25 |
Marchnad Rhuthun |
Dyddiad 12.06.25 |
Marchnad Dolgellau |
Dyddiad 13.06.25 |
Marchnad Caerfyrddin |
Dyddiad 20.06.25 |
Marchnad Y Trallwng |
Dyddiad 30.06.25 |
Marchnad Yr Wyddgrug |
Dyddiad 04.07.25 |
Marchnad Tregaron |
Dyddiad 08.07.25 |
Marchnad Talybont |
Dyddiad 15.07.25 |
Marchnad Aberystwyth |
Dyddiad 19.07.25 |