Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Mae Cig-weithio yn gynllun 12 mis sydd wedi’i lunio i ddatblygu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru.

 

Drwy gyd-weithio fel grŵp, y nod yw sbarduno sgyrsiau, cynyddu dealltwriaeth a meithrin cysylltiadau o fewn y gadwyn gyflenwi, yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Os ydych chi’n ticio’r bocsys i gyd, ymgeisiwch i fod yn rhan o grŵp newydd a chyffrous HCC heddiw!

  • 21-35 oed
  • Cymryd rhan yn y gadwyn gyflenwi cig coch
  • Angerdd am gynhyrchu a hyrwyddo cig coch
  • Diddordeb mewn ymchwil a datblygu
  • Yn awyddus i weld y gadwyn gyflenwi yn dod yn fwy effeithlon a chynaliadwy
  • Uchelgeisiol llawn cymhelliant a brwdfrydig

 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa drwy fod yn rhan o’r elfennau canlynol:

01
Modiwlau - yn cynnwys effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi ac ymwybyddiaeth defnyddwyr.

Datblygwch eich arbenigedd mewn meysydd penodol o’r gadwyn gyflenwi!

Bydd pum sesiwn yn cael eu cynnal gyda phum thema, yn cynnig cymysgedd o sesiynau ymarferol, sgyrsiau adeiladol a chyfle i ymwneud â gwyddonwyr cig ac arweinwyr masnachol adnabyddus yn fyd-eang.

Thema 1: Cig-weithio – arweinwyr y diwydiant

Thema 2: Yr Amgylchedd ac Amaethu

Thema 3: Un Iechyd – y cysylltiad rhwng iechyd pobl ac anifeiliaid

Thema 4: Effeithlonrwydd y gadwyn cyflenwi cig coch o’r fferm i’r fforc. Sut gallwn ni ddylanwadu ar ansawdd cig a boddhad defnyddwyr?

Thema 5: Cynhyrchu, Prosesu a Phroffidioldeb

Bydd cyfle pellach i aelodau fynychu cynadleddau, digwyddiadau HCC ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo.

02
Mentoriaid - cewch fentor i’ch cefnogi a’ch cynghori ac am brofiad ymarferol yn y gweithle.

Meithrin cysylltiadau newydd ac ehangu’ch gwybodaeth o’r sector!

Bydd pob unigolyn yn cael mentor yr un o’r gadwyn gyflenwi. Bydd aelodau’n cwrdd â’u mentor i ddeall mwy am eu maes penodol nhw o fewn y gadwyn gyflenwi. Yn dilyn hynny, bydd cyfle i dreulio diwrnod gwaith gyda’r mentor, gyda’r profiad yn sail i drafodaethau yn ystod y dyddiau a bennir ar gyfer y modiwlau.

03
Prosiectau - wedi’u cyd-gynllunio gan y grŵp i greu gwybodaeth newydd ar gyfer sector sy’n dilyn data.

Cyfrannu tuag at brosiect grŵp i gynhyrchu gwybodaeth newydd ar gyfer y diwydiant!

Bydd y grŵp yn cynllunio a datblygu prosiect yn ystod y sesiwn gychwynnol, gyda’r nod o gynhyrchu gwybodaeth a data y gellir ei gyhoeddi er budd y diwydiant yn ehangach. Dewis y grŵp yw’r maes ymchwil gyda’r posibilrwydd o ystyried arferion ar y fferm, effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi a barn defnyddwyr.

SUT FYDD O’N GWEITHIO?

Fe gyflwynir y rhaglen ar draws 6 niwrnod dros gyfnod o 12 mis. Bydd hyn yn cynnwys:

  • 5 diwrnod o brofiad ymarferol drwy themâu’r modiwlau
  • 1 diwrnod gyda’ch mentor

Diddordeb? Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda ni ar info@hybucig.cymru / 01970 625050