Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Statws PGI


Mae Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) yn statws sy’n cael ei ddyfarnu gan y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth y DU er mwyn gwarchod a hyrwyddo cynhyrchion bwyd rhanbarthol sydd ag enw da neu nodweddion nodedig sy’n unigryw i’r ardal honno.

 

Lansiwyd y fframwaith PGI gan yr UE yn 1993 i gynnig gwarchodaeth gyfreithiol i gynhyrchion cydnabyddedig rhag efelychiad ar draws yr UE. Mae’n gweithredu yn yr un ffordd â Nod Masnach, gan atal cynhyrchwyr o’r tu allan i ranbarth rhag efelychu cynnyrch rhanbarthol. Ar 1 Ionawr 2021 (pan adawodd y DU yr UE), cyflwynwyd Cynllun Dynodiad Dearyddol (GI) y DU gan Lywodraeth y DU i efelychu rheolau a gofynion Cynllun yr UE, ac amddiffyn cynnyrch y DU.

Mae’r UE a llywodraeth y DU yn trefnu asesiad cynhwysfawr o gynnyrch cyn dyfarnu’r statws, gan ymchwilio i’w enw da a chysylltiad rhanbarthol. Mae dyfarnu’r statws yn dangos fod y cynnyrch yn cael ei gynhyrchu a’i brosesu yn unol â safonau a rhagofynion cytunedig, a bod gan y cynnyrch gysylltiad rhanbarthol diffiniedig.

Mae’r statws PGI yn atal cystadleuaeth annheg a chamarwain defnyddwyr â chynhyrchion nad ydynt yn ddilys ac a allai fod o ansawdd israddol neu â blas gwahanol.

Dyfarnwyd statws PGI i Gig Eidion Cymru gan yr UE yn 2002 ac i Gig Oen Cymru yn 2003. Ar 1 Ionawr 2021 daeth yr holl enwau cynhyrchion a ddiogelir yn yr UE i’w diogelu o dan Gynllun GI y DU – gan gynnwys Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Amcanion PGI:

  • Gwarchod enw da’r cynnyrch bwyd rhanbarthol
  • Hyrwyddo gweithgaredd gwledig ac amaethyddol
  • Cynorthwyo cynhyrchwyr i gael pris premiwm ar gyfer eu cynhyrchion dilys yn gyfnewid am “ymdrech wirioneddol i wella ansawdd”
  • Cyflwyno negesau clir i’r defnyddwyr am darddiad y cynnyrch.
  • Mae statws PGI Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gwarantu dilysrwydd a chywirdeb y brandiau. Gwneir defnydd llawn o fanteision y dirwedd naturiol ynghyd â dulliau ffermio traddodiadol sydd wedi ennill eu plwyf er mwyn cynhyrchu cig oen a chig eidion o ansawdd uchel.

Mae PGI yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr fod gan Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru olrheinedd llwyr, ac mae’n cydnabod tarddiad a rhinweddau unigryw’r cynnyrch. Dim ond Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI sydd â gwarant eu bod yn tarddu o ŵyn neu wartheg wedi’u geni a’u magu yng Nghymru, sydd ag olrheinedd llwyr, ac sydd wedi’u lladd a’u prosesu mewn lladd-dai neu unedau prosesu a gafodd eu cymeradwyo gan HCC. Mae statws PGI yn gwarchod cywirdeb brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Am ragor o fanylion am y Cynllun PGI, cysylltwch â HCC.