Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Mae HCC yn gorff atebol a lywodraethir gan Fwrdd sy’n cynrychioli’r diwydiant cig coch.

Mae aelodau Bwrdd HCC yn cynrychioli ffermwyr a phroseswyr sy’n talu lefi, ac eraill sy’n meddu ar sgiliau sy’n berthnasol i ddatblygiad y corff yn y dyfodol.

Cadeirydd

01
Catherine Smith

Bu Catherine yn aelod o fwrdd Hybu Cig Cymru ers 2017, cafodd ei phenodi’n Gadeirydd yng ngwanwyn 2021.

Mae hi hefyd yn ymgynghorydd busnes bwyd a chanddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector cig coch. Graddiodd o’r brifysgol yn 2000 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Rheolaeth Bwyd a Chwsmeriaid ac ers hynny mae hi wedi gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi cig coch gan gynnwys caffael, prosesu a gweithgynhyrchu. Mae ganddi hefyd brofiad sylweddol o ran rheoli cyfrifon ar draws fanwerthu a gwasanaeth bwyd.

Trwy ei ymgynghoriaeth busnes mae hi’n darparu arweiniad strategol, datblygiad staff, rheoli prosiectau, ac arweiniad technegol a gweithredol ar gyfer cynhyrchwyr a phroseswyr.

Mae Catherine yn byw gyda’i gwr a thri o blant ar fferm gymysg yn Sir Fynwy.

Aelodau Bwrdd

01
Gareth Wynn Davies

Gareth yw cyn Brif Weithredwr Wynnstay Group Plc, gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr cynnyrch amaethyddol i fusnesau ffermio a chymunedau gwledig ledled Cymru a Gorllewin Lloegr. Mae’n gweithio’n barhaus gyda chydweithwyr a chyrff allanol (ar lefel leol a chenedlaethol) i wella’r busnes a’r gymuned wledig.

Mae’n gyn-Gadeirydd Celtic Pride Ltd, menter caffael a marchnata cig coch sy’n fenter ar y cyd rhwng Wynnstay a Castell Howell Foods. Mae Gareth hefyd yn gyn-Gadeirydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru.

Ar hyn o bryd mae Gareth yn dal swydd Cyfarwyddwr fel:

NED Wynnstay Group plc

Cyfarwyddwr a Chadeirydd Bibby Agriculture Ltd

Cyfarwyddwr Wyro Developments Ltd

Aelod o Fwrdd Agricultural Industries Confederation (AIC).

Gareth yw cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg HCC.

02
John T Davies
Mae John yn ffermio 350 erw mewn partneriaeth gyda’i fab a’i wraig yn Eglwyswrw, Gogledd Sir Benfro. Mae’r busnes ffermio yn cynnwys buches odro a chig eidion, grawn gwanwyn a menter cynhyrchu egni adnewyddadwy sydd yn cynnwys ynni gwynt ac ynni’r haul.

Bu John yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru am ddegawd ac mae wedi derbyn Cymrodoriaeth gan Gymdeithasau Amaethyddol Brenhinol y DU am ei wasanaethau parhaus i amaethyddiaeth.

O 2008-2012 roedd yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’n parhau yn aelod o Gyngor Sir Benfro ac mae e hefyd yn aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Treulia John llawer o’i amser sbâr fel Ymddiriedolwr Cronfa Ieuenctid Ymddiriedolaeth Uwch Siryf Dyfed. Mae John yn gyn-Uwch Siryf Dyfed ac mae’n gyn-gadeirydd ar Sefydliad Gweithlu Ynni Sir Benfro. Mae John hefyd yn Gyn-gadeirydd ac parhau’n ymddiriedolwr o elusen amaethyddol Tir Dewi.  Mae’n Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Syr Emrys Jones yn y Brifysgol Amaethyddol Genedlaethol.

03
Hugh Hesketh Evans

Mae Hugh yn ffermio mewn partneriaeth â’i wraig yn Bryndy, Llanelidan. Mae’r fferm yn cynnwys diadell o famogiaid bridio croesfrid a buches o wartheg sugno a gwartheg stôr. Mae Hugh wedi bod yn Gynghorydd Sir Ddinbych ers 2004 a bu’n Arweinydd y Cyngor o 2007 i 2022. Mae wedi dal nifer o rolau mewn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Bwrdd S4C, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a dyfarnwyd OBE iddo am wasanaeth i Lywodraeth Leol.

04
Jack Evershed

Ganwyd Jack ar fferm ddefaid y teulu ger Aberystwyth ac er 1990 mae wedi bod yn bartner yn y busnes. Ar ôl cwblhau ei addysg gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg o Brifysgol Rhydychen, bu Jack yn gweithio yn y diwydiant cyflenwi amaethyddol am wyth mlynedd. Ar ôl dychwelyd i’r fferm yn gynnar yn y nawdegau, cyflwynodd y fferm system wedi’i seilio ar borthiant gan fabwysiadu system lle mae’r diadell yn wyna ym mis Mai.

Mae Jack hefyd wedi cwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn Gweinyddu Busnes gan arwain at adroddiad ar fodelau cydgynhyrchu. Mae wedi gwasanaethu ar sawl Bwrdd sy’n datblygu ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer poblogaethau gwledig. Tan yn ddiweddar, bu Jack yn Gadeirydd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru a’i bwrpas yw sicrhau bod poblogaethau gwledig yn derbyn modelau gofal rhagorol.

Mae Jack yn pwysleisio bod gan gymunedau gwledig Cymru gyfraniad enfawr i’w wneud i les ein cenedl, yn amgylcheddol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd; a bod gan HCC rôl allweddol wrth gefnogi’r cymunedau hynny.

05
Dewi Hughes

Daw Dewi o deulu sy’n ffermio ar Ynys Môn. Mae wedi treulio ei yrfa yn gweithio yn sector amaeth Cymru yn cynnwys cyflogaeth gyda MLC a HCC. Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid ym Mentera, ble mae’n arwain nifer o brosiectau iechyd anifeiliaid, yn cynnwys gwasanaethau milfeddygol ar draws gogledd Cymru.

Bu Dewi yn allweddol yn y broses o ddatblygu a rheoli ar y cyd y Rhaglen Arwain DGC, rhaglen arloesol sy’n cael ei harwain gan y diwydiant i hyrwyddo defnydd gwrthficrobaidd cyfrifol yng Nghymru, gan leihau’r angen am wrthfiotigau’n sylweddol.

06
Mike Humphreys

Bellach wedi ymddeol yn dilyn 45 mlynedd o waith ymchwil gweithredol yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth mae Mike yn parhau i gyhoeddi’n helaeth ym maes ymchwil tir glas. Er bod llawer o ymchwil Mike wedi bod yn arloesol, mae ei ffocws bob amser wedi bod ar gyfieithu canlyniadau er budd ‘cyhoeddus’ ac ymarferol. Mae wedi archwilio cyfleoedd o fewn ei fathau newydd o laswellt ar gyfer darpariaethau ychwanegol i warchod yr amgylchedd, gwella priddoedd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella atafaelu carbon.

07
Emlyn Roberts

Mae Emlyn yn ffermwr o’r 4edd genhedlaeth yn Esgaigawr, ger Dolgellau. Mae Esgairgawr yn fferm ucheldir draddodiadol sy’n ymgorffori Aran Fawddwy ac yn cyrraedd 3000 troedfedd uwch lefel y môr. Mae’r fferm yn rhedeg praidd gaeedig o ddefaid mynydd Cymreig yn ogystal â phraidd lai o ddefaid Torddu. Mae Emlyn hefyd yn magu gwartheg sy’n cael eu gwerthu trwy farchnad leol.

Mae’r fferm wedi bod yn rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol er 1994 ac mae gan Emlyn ddiddordeb mawr mewn mesur a gwella rhinweddau amgylcheddol y fferm yn ogystal â chynhyrchedd ac effeithlonrwydd cyffredinol.

Mae Emlyn yn aelod o bwyllgor Ardal Llai ffafriol NFU Cymru ac mae’n gyn-Gadeirydd cangen Meirionnydd. Ef yw cyfarwyddwr yr adran ddefaid yn Sioe Meirionydd a chynrychiolydd Meirionnydd ar Fwrdd Gwlân Prydain. Mae Emlyn wedi cymryd rhan yn Rhaglen Busnes ac Arloesi’r Academi Amaeth ac yn aelod o Raglen Gwydnwch Fferm y Prince’s Trust.

08
Caroline Sanger-Davies

Mae gan Caroline dros 30 mlynedd o brofiad fel o ran marchnata. Mae ei gyrfa yn cynnwys cyfnodau gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Canolfan Mileniwm Cymru, Sw Caer ac Alton Towers. Mae’n arbenigo mewn darparu cyngor marchnata a chyfathrebu strategol i atyniadau ymwelwyr, sefydliadau celfyddydol ac elusennau, gan gynnwys nifer o siopau fferm a pharciau fferm ar draws y DU. Yn wreiddiol o deulu ffermio, mae Caroline yn byw yn Sir y Fflint gyda’i gŵr a’i merch.

09
Paul Savage

Mae Paul Savage yn arweinydd profiadol mewn gweithgynhyrchu bwyd gyda chefndir cryf mewn llywodraethiant, arweinyddiaeth strategol, ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid dros sectorau bwyd, amaethyddiaeth, a nwyddau traul cyflym. Gweithiodd mewn swyddi uwch gydag Arla Foods, yn cynnwys gweithrediadau masnachol ac fel Cyfarwyddwr Amaethyddol, ble datblygodd arbenigedd cryf mewn rheolaeth o’r gadwyn gyflenwi, cynaliadwyedd, a strategaeth fasnachol.

Ar hyn o bryd, mae Paul yn Gadeirydd Hufenfa De Arfon, gan weithio’n agos gyda pherchnogion ffermydd ac yn ymwneud â heriau amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae ei yrfa hefyd wedi cynnwys arwain ar gydweithio ar raddfa fawr o fewn y diwydiant, gan weithio dan gyfyngiadau rheoleiddio cymhleth, ac ymgysylltu gyda chyrff llywodraethol i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi.

10
Vicki Spencer-Francis

Yn ferch fferm, dechreuodd Vicki ei gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn Llundain, gan lansio rhai o sioeau teledu a sianeli digidol mwyaf adnabyddus y DU. Cafodd rôl gyda Comic Relief fu’n sylfaen ar gyfer bywyd o gyfathrebu pwrpasol. Symudodd yn ôl i Gymru, gan sefydlu’r asiantaeth amlddisgyblaethol Cowshed Communication. Mae Vicki yn byw yn Sir Fynwy gyda’i gŵr, ei chi a’i mam. Mae’n aelod o bwyllgor nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Marie Curie.