Mae Cig-weithio yn gynllun 12 mis sydd wedi’i lunio i ddatblygu a chefnogi unigolion o fewn y gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru.
Mae’n rhaid i’r aelodau fod rhwng 21-35 mlwydd oed, yn gweithio o fewn y gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru, yn angerddol am gynhyrchu a hyrwyddo, ac â diddordeb mewn ymchwil a datblygu.
Y nod yw sbarduno sgyrsiau, cynyddu dealltwriaeth a meithrin cysylltiadau o fewn y gadwyn gyflenwi, yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa drwy fod yn rhan o dair elfen:
- Modiwlau: sy’n mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o destunau, o effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi ac ymwybyddiaeth defnyddwyr, i ddatblygu gwybodaeth yr aelodau mewn agweddau arbenigol o’r gadwyn gyflenwi.
- Mentoriaid: mae’r aelodau’n cael mentor i’w cefnogi a’u cynghori ac yn cael profiad ymarferol yn y gweithle.
- Prosiectau: wedi’u cyd-gynllunio gan y grŵp i greu gwybodaeth newydd ar gyfer y diwydiant.
Fe gyflwynir y rhaglen ar draws 6 niwrnod dros gyfnod o 12 mis. Bydd hyn yn cynnwys:
- 5 sesiwn gyda themâu amrywiol
- 1 diwrnod gyda’ch mentor
Bydd y ffenest i ymgeisio am le yn y grŵp Cig-weithio nesaf yn agor yn 2026.
Aelodau grŵp 2025-2026
Enw: Ben Roberts
Lleoliad: Cigydd/Perchennog Siop
Swydd: Farndon, Sir Caer
“Drwy fod yn rhan o Cig-weithio, rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y diwydiant cig coch. Mae cael cyfle i wella fy nealltwriaeth o’r gadwyn gyflenwi sy’n cynhyrchu cynnyrch o safon yn gyson, a chael y cyfle i fwydo hynny yn ôl i gwsmeriaid yn fraint.
“Rwy’n edrych ymlaen hefyd at gysylltu gyda phobl ifanc o fewn y diwydiant sydd â’r un angerdd a fi, a gobeithiaf y bydd yn gyfle i wneud ffrindiau ar gyfer y dyfodol.”
Enw: Lynfa Jones
Lleoliad: Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymru
Swydd: Y Trallwng, Powys
“Cefais fy magu ar fferm ddefaid a gwartheg yng nghanolbarth Cymru ac rwy’n gweithio fel ysgrifennydd brîd. Rwyf yn edrych ymlaen at fod yn aelod o’r grŵp Cig-weithio eleni gan ei fod yn gyfle ffantastig i gydweithio gyda phobl debyg i mi sy’n angerddol am ddyfodol cig Cymru.
“Mae’n gyfle i rannu syniadau a dysgu gan eraill ar draws y diwydiant. Rwyf yn edrych ymlaen yn benodol at gyfrannu at drafodaethau yn ymwneud â chynaliadwyedd a sut y gallwn gysylltu’n well gyda chwsmeriaid – tra’n hyrwyddo safon uchel a threftadaeth ffermio da byw yng Nghymru. Fy mhrif angerdd yw addysgu’r gymdeithas ehangach a chwsmeriaid am y broses o’r fferm i’r fforc.”
Enw: Thomas Davies
Lleoliad: Aberaeron, Ceredigion
Swydd: Masnachwr Amaethyddol yn Wynnstay
“Bydd y wybodaeth a’r rhwydweithiau y byddaf yn eu hennill drwy’r rhaglen yn cael eu rhannu’n uniongyrchol gyda fy nghleientiaid yn y gwaith. Boed hynny drwy eu helpu i addasu i reoliadau amgylcheddol newydd, archwilio arferion carbon effeithlon, neu wella cynhyrchiant drwy dechnoleg, byddaf yn rhoi’r hyn a ddysgaf ar waith i gyflawni gwerth go iawn. Yn ogystal, byddaf yn gallu gweithio’n fwy cydweithredol gyda fy nghydweithwyr a chyflenwyr o fewn Wynnstay, gan gyfrannu at arbenigedd mewnol cryfach a gwasanaeth cwsmeriaid.”
Enw: Erin McNaught
Lleoliad: Bala
Swydd: Ffermwr
“Bydd y rhaglen yma yn cefnogi fy natblygiad o fewn y sector cig coch drwy fy helpu i adeiladu ar feysydd rwyf eisoes yn angerddol amdanynt, yn ogystal ag ehangu ar feysydd gwybodaeth newydd a fydd o fudd i’m rôl bresennol a’m cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rwy’n arbennig o awyddus i ddysgu mwy am eneteg anifeiliaid, yn enwedig wrth i mi weithio i wella fy niadell Gymreig gyda’r nod o fridio mamogiaid fel anifeiliaid cadw ar gyfer ein diadell sy’n wyna’n gynnar. Bydd deall geneteg yn well yn caniatáu i mi wneud penderfyniadau bridio gwell, gan wella cynhyrchiant a pherfformiad hirdymor y ddiadell.”
Enw: Richad Watkins
Lleoliad: Malvern, Swydd Henffordd
Swydd: Prynwr da byw gyda Kepak Merthyr Tudful
“Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn ehangu fy ngwybodaeth am y diwydiant ac yn caniatáu i mi wneud cysylltiadau newydd a fydd yn datblygu fy sgiliau i wella fy mherfformiad presennol yn y gwaith. Drwy gymryd rhan yn y cwrs, bydd yn rhoi cipolwg i mi ar ffactorau a materion eraill o fewn y diwydiant a allai effeithio’n anuniongyrchol ar fy rôl nad wyf yn eu hystyried ar hyn o bryd. Rwy’n edrych yn gyson i wella a datblygu fy mherfformiad a fydd yn caniatáu i mi fedru addasu pan fydd newidiadau’n codi a allai effeithio ar y diwydiant.”
Enw: Rachel Andrew Jones
Lleoliad: Llandinam, Powys
Swydd: Darlithydd Amaethyddiaeth, Grŵp colegau NPTC, Y Drenewydd.
“Bydd y rhaglen yn ehangu fy ngwybodaeth fel ffermwr a darlithydd ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar dueddiadau’r farchnad, disgwyliadau defnyddwyr, a gofynion rheoleiddio, gan fy ngalluogi i addasu fy musnes fferm i ddiwallu gofynion newidiol y defnyddiwr. Bydd Cig-weithio hefyd yn fy arfogi â’r wybodaeth a’r cysylltiadau i redeg menter ffermio fwy effeithlon, cynaliadwy a gwydn, gan gefnogi fy natblygiad personol fel darlithydd a ffermwr a llwyddiant hirdymor y diwydiant.”
Enw: Bethany Rodgers
Lleoliad: Gwendwr, Llanfair ym Muallt
Swydd: Swyddog caffael cig oen a’r gadwyn gyflenwi
“Bydd y cyfleoedd y mae’r rhaglen Cig-weithio yn eu cynnig yn amhrisiadwy, gan roi cyfle i mi weld meysydd amrywiol ac arbenigol y diwydiant cig coch yng Nghymru.
“Mae hi’n ddyddiau cynnar ar fy ngyrfa o fewn y sector, ac rwy’n edrych ymlaen at feithrin gwybodaeth a phrofiadau y gallaf eu defnyddio yn fy rôl bresennol a thu hwnt. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu gan fentor yn y diwydiant, tra hefyd yn adeiladu ar fy rhwydweithiau fy hun o fewn y diwydiant”
Enw:Emma Williams
Lleoliad: Llanddeusant, Anglesey
Swydd: Ffermwr/ Perchennog Cig Clwch
“Drwy ddod yn aelod o’r rhaglen Cig-weithio, rwy’n gobeithio deall y gadwyn gyflenwi ymhellach. Rwyf bob amser yn cymryd diddordeb brwd ym mhob agwedd ar iechyd anifeiliaid ac wrth fy modd yn holi’r milfeddyg pan fydd yn mynychu’r fferm i wella fy nealltwriaeth o sut a pham mae problemau iechyd yn digwydd. Byddwn wrth fy modd yn cael mwy o wybodaeth am bob agwedd ar y gadwyn gyflenwi cig coch er mwyn gallu siarad yn hyderus â’n cwsmeriaid am y cig gwych rydym yn ei gynhyrchu, y milltiroedd bwyd isel a’r safonau lles uchel.
Rwy’n angerddol am hyrwyddo ein cig eidion ar y cyfryngau cymdeithasol ac arddangos ffermwyr lleol eraill a’r gwaith caled sy’n cael ei gyflawni i gynhyrchu bwyd.”